Nicola Sturgeon (Llun: Llywodraeth Agored)
Does “dim rheswm” i wrthod cais ffurfiol i gynnal ail refferendwm annibyniaeth, meddai Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

Mae hi wedi ysgrifennu llythyr at Brif Weinidog Prydain, Theresa May yn gofyn am ganiatâd i gynnal y refferendwm er mwyn trosglwyddo pwerau o San Steffan i Holyrood.

Yr wythnos hon, pleidleisiodd aelodau seneddol yr Alban o 69 i 59 o blaid gofyn am gael cynnal y refferendwm rhwng hydref 2018 a gwanwyn 2019.

Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n derbyn y cais, ar ôl i Theresa May ddweud nad “dyma’r amser” am refferendwm o’r fath.

Llythyr

Yn ei llythyr, dywedodd Nicola Sturgeon wrth Theresa May: “Mae’n ymddangos nad oes rheswm i chi sefyll yn ffordd ewyllys Senedd yr Alban a gobeithio na fyddwch chi’n gwneud hynny.

“Fodd bynnag, gan ddisgwyl i chi wrthod cynnal trafodaethau ar hyn o bryd, mae’n bwysig i mi fod yn glir ynghylch fy safbwynt.

“Fy marn gref i yw fod rhaid parchu a gweithredu ar fandad Senedd yr Alban. Nid ‘os’ yw’r cwestiwn, ond ‘sut’.”

Undeb Ewropeaidd

Dywedodd yr SNP yn eu maniffesto y llynedd y dylid cynnal refferendwm annibyniaeth pe bai’r sefyllfa’n newid ers y refferendwm cyntaf yn 2014.

Tynnu’r Alban allan o’r Undeb Ewropeaidd yn groes i ddymuniad y rhan fwyaf o Albanwyr yw’r prif reswm dros amseru’r cais, gyda 62% o’r boblogaeth wedi pleidleisio o blaid aros.

Ychwanegodd Nicola Sturgeon yn y llythyr: “Yn yr amgylchiadau hyn sydd wedi newid, rhaid i bobol yr Alban gael yr hawl i ddewis ein dyfodol ein hunain – yn gryno, cael gweithredu ar ein hawl i benderfynu droson ni’n hunain.”

Fideo

Mewn fideo ar dudalen Twitter Llywodraeth yr Alban, ychwanegodd Nicola Sturgeon fod Theresa May wedi dweud ei bod hi’n “bwriadu anwybyddu ewyllys Senedd yr Alban”.

“Os yw llywodraeth San Steffan yn parhau i wneud hynny, bydd yn mynd yn erbyn seiliau datganoli,” meddai.

“Felly rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn newid ei meddwl ac yn cydnabod fod gan bobol yr Alban yr hawl i ddewis ar amser ac mewn ffordd sy’n iawn i’r Alban.”

Dywedodd y byddai hi’n amlinellu cynlluniau i “symud ymlaen” pe bai’r cais yn cael ei wrthod.

Mae Downing Street wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn y llythyr, gan ychwanegu y byddan nhw’n ymateb maes o law.