Y llythyr yn cael ei sgrifennu (Llun Twitter Llywodraeth yr Alban)
Mae disgwyl i lythyr ffurfiol sy’n gofyn am ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban gyrraedd Downing Street heddiw.

Mae llun wedi’i gyhoeddi o Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn sgrifennu’r neges at Brif Weinidog Prydain,. Theresa May.

Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban drydar y llun o Nicola Sturgeon yn eistedd yn hamddenol ar soffa yn ei chartref yn Nhŷ Bute wrth ysgrifennu’r drafft olaf nos Iau.

Senedd yr Alban o blaid

Pleidleisiodd Aelodau Seneddol yr Alban o 69 i 59 yr wythnos hon o blaid ceisio caniatâd am gael refferendwm annibyniaeth rhwng hydref 2018 a gwanwyn 2019.

Ond mae Ysgrifennydd yr Alban, David Mundell, eisoes wedi dweud y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod y cais.

Ac ar ôl cyfarfod diweddar gyda Nicola Sturgeon, fe wnaeth Theresa May yn glir nad oedd hi’n credu mai dyma’r amser iawn i gynnal pleidlais arall.

Cyhoeddi’r manylion

Mae disgwyl i gynnwys y llythyr gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw – dadl Nicola Sturgeon a’r SNP yw fod Brexit yn newid popeth, gan fod rhai o ddadleuon yr ymngyrch Na y tro diwetha’ wedi dibynnu ar aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth 62% o bobol yr Alban bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016 ac fe wnaeth maniffesto’r SNP ar gyfer etholiadau Holyrood y llynedd nodi’n glir y byddai pleidlais arall ar annibyniaeth be bai “newid mewn amgylchiadau” ers y bleidlais gyntaf yn 2014.

Mae’r dadleuon wedi cael eu ffyrnigo hefyd gyda chyhuddiadau fod Llywodraeth Prydain yn anwybyddu llywodraethau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon wrth baratoi ar gyfer Brexit.