Francoise Hollande - nges glir (Pablo Tupin-Noriega CCA4.0)
Mae Arlywydd Ffrainc wedi dweud y bydd rhaid i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd cyn dechrau trafod cytundebau masnach.

Mae Francois Hollande wedi cefnogi safiad Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, yn erbyn galwad Prif Weinidog Prydain, Theresa May,  am drafod y ddau beth yr un pryd.

Gall cynnal y trafodaethau masnach yn hwyrach olygu na fydd Theresa May yn medru cwblhau trafodaethau Brexit erbyn ei tharged sef Mawrth 2019.

Yn ôl datganiad gan Gyngor Ewrop ddoe fe fydd trafodaethau Brexit yn dechrau trwy ganolbwyntio ar drefniadau gadael yr Undeb.

Yn ôl llefarydd ar ran Theresa May dyw safbwynt y Prif Weinidog ddim wedi newid ac mae hi o hyd am weld y trafodaethau yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’i gilydd.