David Davis yn cadarnhau y bydd trafodaethau am ddiogelwch (Steve Punter CCA 2.0)
O fewn oriau i ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, fe gododd ffrae tros ddiogelwch ac ymladd brawychaeth.

Fe gafodd Prif Weinidog Prydain ei chyhuddo o”flacmêl” trwy gysylltu cytundeb ar ddiogelwch ac ymladd brawychaeth gyda’r trafodathau tros fasnach.

Fe gafodd ei chondemnio am gymal yn ei llythyr gadael at Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, yn rhybuddio y byddai methu â chyrraedd setliad masnach yn arwain at wanhau’r cydweithredu yn erbyn troseddu a brawychaeth.

“Camddealltwriaeth”

Y bore yma, mae nifer o weinidogion wedi bod yn pwysleisio mai “camddealltwriaeth” oedd y cyfan.

Ond fe gadarnhaodd y gweinidog sy’n gyfrifol am Brexit, David Davis, y gallai trafodaeth fod am fanylion polisi diogelwch.

Fe bwysleisiodd yr Ysgrifennydd dros Waith a Phensiynau, Damian Green, bod masnach a diogelwch wedi’u crybwyll gyda’i gilydd am eu bod “i gyd wedi’u clymu yn ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

“Dyw e ddim yn fygythiad, dw i’n meddwl ei fod yn gamddealltwriaeth,” meddai wrth y rhaglen deledu Newsnight neithiwr. “Yn sicr dyw e ddim yn fygythiad.”

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, yn anghytuno. Mae’r llythyr yn “gwbl warthus”, meddai, “yn amlwg yn fygythiad”.

“Parhau i gydweithio” meddai Boris

Mewn erthygl yn y Daily Telegraph, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, fod y Llywodraeth am barhau i gymryd rhan yn ymdrechion yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn brawychiaeth.

“Rydym am barhau i weithio gyda’n cymheiriaid ar amddiffyn, rhannu gwybodaeth, brawychiaeth, cydlynu polisi tramor – a llawer mwy – ar lefel rynglywodraethol,” meddai.

Bydd cynlluniau i dynnu pwerau yn ôl i San Steffan yn dechrau yn syth heddiw, gyda chyhoeddi Papur Gwyn y Mesur Diddymu Mawr i egluro sut y bydd deddfau Ewropeaidd yn cael eu trin.