Carwyn Jones yn cwrdd a Theresa May yn Abertawe wythnos ddiwethaf (Llun: Ben Birchall/ PA Wire)
Wrth i Theresa May ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd drwy danio Erthygl 50, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud nad oedd wedi gweld y llythyr cyn heddiw ac nad oedd wedi cael y cyfle i gyfrannu at ei ysgrifennu.

Dywedodd wrth Aelodau Cynulliad yn y Senedd ym Mae Caerdydd ei fod wedi trafod y llythyr yn gyffredinol gyda Theresa May yn ystod ei hymweliad ag Abertawe wythnos ddiwethaf ond ei fod yn “annerbyniol” nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael cyfrannu i lythyr Erthygl 50.

Ychwanegodd ei fod yn “broses rwystredig” gyda’r llywodraethau datganoledig “yn cael eu trin yn gyson gyda diffyg parch”.

“Dw i ddim yn gweld sut y gallai’r Prif Weinidog honni ei bod yn negydu ar ran holl wledydd Prydain pan mae hi’n anwybyddu hawliau Llywodraeth Cymru i siarad ar ran pobl Cymru.”

Mae Theresa May wedi awgrymu y gallai Cymru ddisgwyl rhagor o bwerau yn sgil Brexit a dywedodd Carwyn Jones y byddai’n croesawu hynny “os yw hynny’n digwydd.”

Os na, fe fydd y llywodraeth yn gwrthwynebu hynny’n gadarn, meddai Carwyn Jones.

Ychwanegodd: “Ond cyn belled a bod Llywodraeth y DU yn fodlon gweithio’n adeiladol gyda ni yn ystod y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd, yna fe fyddwn ni’n barod i wneud popeth yn ein gallu i helpu.”