Theresa May yn tanio Erthygl 50 (Llun: Christopher Furlong/PA)
Mae Erthygl 50 wedi cael ei danio, gan ddechrau’r broses ffurfiol fydd yn gweld gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r llythyr a gafodd ei lofnodi gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May wedi cael ei roi i Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk ym Mrwsel gan Syr Tim Barrow.

Yn y llythyr, dywedodd Theresa May wrth Donald Tusk: “Ry’n ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dydyn ni ddim yn gadael Ewrop – ac ry’n ni am barhau’n bartneriaid a chynghreiriaid ymroddedig i’n ffrindiau ar draws y cyfandir.

“Mae’r Deyrnas Unedig am gytuno ar bartneriaeth ddofn ac arbennig gyda’r Undeb Ewropeaidd sy’n dibynnu ar gydweithredu’n economaidd ac o ran diogelwch.

“Er mwyn cyflawni hyn, ry’n ni’n credu ei bod hi’n angenrheidiol i gytuno ar amodau ein partneriaeth yn y dyfodol, ochr yn ochr â thynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.”

Mae disgwyl i’r broses bara dwy flynedd, sy’n golygu y bydd Prydain wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 2019, a hynny ar ôl 46 o flynyddoedd o aelodaeth.

Yn San Steffan, dywedodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May fod ei llywodraeth wedi “gweithredu ar ewyllys y bobol”.

“Mae proses Erthygl 50 wedi dechrau,” meddai, gan ychwanegu fod hon yn “foment hanesyddol nad oes troi’n ôl arni.”

Dywedodd: “Mae Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd – ry’n ni’n mynd i wneud ein penderfyniadau ein hunain a’n cyfreithiau ein hunain, ry’n ni’n mynd i reoli’r pethau sydd bwysicaf i ni.”

Dywedodd mewn araith mai “nawr yw’r adeg i ni ddod ynghyd, i fod yn unedig ar draws y Tŷ hwn ac ar draws y wlad hon” i sicrhau’r “ddêl orau bosib”.

Ychwanegodd ei bod hi am weld Prydain “gryfach, decach, fwy unedig a mwy allblyg nag erioed o’r blaen”, a bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig “cyfle” newydd.

Dyfodol Prydain

Wrth drafod y dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, dywedodd Theresa May y byddai Prydain ac Ewrop yn parhau’n “ffrindiau gorau a chymdogion”, ond bod angen edrych y tu hwnt i ffiniau Ewrop hefyd.

“Gallwn ni ddewis dweud bod y dasg o’n blaenau’n rhy fawr, gallwn ni ddewis troi i wynebu’r gorffennol a chredu na allwn ei wneud e, neu fe allwn ni edrych ymlaen yn optimistig ac mewn gobaith a chredu yng ngrym parhaus ysbryd Prydain.

“Dw i’n dewis credu ym Mhrydain a bod ein dyddiau gorau o’n blaenau.”

Ymateb Donald Tusk

Wrth annerch cynhadledd i’r wasg yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Donald Tusk mai “rheoli niwed” fyddai blaenoriaeth yr Undeb Ewropeaidd.

“Yr hyn y dylwn i ei bwysleisio heddiw yw nad yw unrhyw beth wedi newid.

“Tan bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd cyfreithiau Ewropeaidd yn parhau i fod mewn grym yn y Deyrnas Unedig.

“Byddwn ni’n gweithredu’n unedig ac yn dechrau trafod ymadawiad trefnus.”

Ychwanegodd mai blaenoriaeth yr Undeb Ewropeaidd fyddai “lleihau’r ansicrwydd sydd wedi cael ei achosi gan benderfyniad y Deyrnas Unedig i’n trigolion, ein busnesau a’n haelodau”.

Fe ddaeth ei araith i ben wrth iddo ddweud “diolch a hwyl fawr”.