Mark Serwotka Llun: PA
Mae Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) wedi mynegi pryder am ddyfodol y gwasanaeth sifil yng ngwledydd Prydain ar ôl Brexit.

Maen nhw’n rhybuddio nad oes digon o staff i ymdopi â’r pwysau anochel yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny ar ôl blynyddoedd o orwario a thorri swyddi.

Ers 2010, mae’r gwasanaeth sifil a chyrff atodol wedi torri 110,000 o swyddi – un o bob pump – ac fe fydd degau o filoedd yn rhagor yn y fantol, yn ôl yr undeb.

“Dim digon o staff”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y PCS, Mark Serwotka: “Wrth i’r Llywodraeth danio Erthygl 50, mae’n amlwg i bawb nad oes gan y gwasanaeth sifil ddigon o staff o bell ffordd ac nad yw’n barod ar gyfer Brexit.

“Tra ein bod ni’n cymryd rhan yn y broses hir a chymhleth o dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, fydd dim tawelu yn y galw am wasanaethau cyfredol.

“Rhaid atal yr holl gynlluniau am doriadau ar unwaith er mwyn caniatáu i ni drafod staffio a’r adnoddau sydd eu hangen.”