Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Fe fydd gwledydd Prydain yn cymryd y cam cyntaf ar y “daith dyngedfennol” tuag at ddyfodol y tu allan i Ewrop wrth i Theresa May ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd heddiw.

Mae’r Prif Weinidog wedi arwyddo’r llythyr a fydd yn dechrau’r broses ac fe fydd y ddogfen hanesyddol yn cael ei chyflwyno i benaethiaid yr Undeb Ewropeaidd ddydd Mercher.

Fe fydd yn ddechrau ar gyfnod o drafodaethau cymhleth a dadleuol a fydd yn rhan o’r broses o dorri cysylltiadau’r Deyrnas Unedig gyda Brwsel erbyn diwedd mis Mawrth 2019.

Fe fydd Theresa May yn annog y wlad i “ddod at ei gilydd” wrth iddi geisio gwella’r rhaniadau a ddaeth i’r amlwg yn ystod ymgyrch y refferendwm.

 “Cynrychioli pob person yn y DU”

Daeth Cabinet Theresa May at ei gilydd yn Rhif 10 y bore ma wrth iddi fanylu ar gynnwys y llythyr a fydd yn tanio Erthygl 50.

Rywbryd ar ôl 12.30 fe fydd y Prif Weinidog yn dweud wrth Aelodau Seneddol bod proses Brexit yn dechrau, tra ym Mrwsel fe fydd llysgennad Prydain i’r UE, Syr Tim Barrow, yn cyflwyno’r ddogfen i lywydd yr Undeb Ewropeaidd Donald Tusk.

Unwaith y  bydd yn cael ei dderbyn, fe fydd Erthygl 50 wedi’i lansio’n swyddogol.

Fe fydd y Prif Weinidog yn dweud wrth y Senedd y bydd hi’n “cynrychioli pob person yn y DU” gan gynnwys dinasyddion yr UE, pan fydd yn mynd at y bwrdd trafod.

“Wrth inni wynebu’r cyfleoedd sydd o’n blaenau ar y daith dyngedfennol hon, fe fydd ein gwerthoedd, ein buddiannau  a’n huchelgeisiau, yn dod a ni at ein gilydd,” meddai.