Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban Llun: Andrew Cowan/Senedd yr Alban/PA
Mae Senedd yr Alban wedi cefnogi galwadau Nicola Sturgeon i ddechrau’r broses o gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth y prynhawn ma.

Roedd 69 o ASau’r Alban wedi pleidleisio o blaid cynnal ail refferendwm, a 59 yn erbyn. Yn ol y disgwyl roedd y Blaid Werdd wedi cefnogi Llywodraeth yr Alban.

Mae Nicola Sturgeon wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU “yn parchu ewyllys Senedd yr Alban” ond, os na, fe fydd hi’n amlinellu ei chamau nesaf ar ôl y Pasg.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May eisoes wedi dweud y bydd hi’n atal ail refferendwm tra bod y broses Brexit yn mynd rhagddi, gan ddweud “nad dyma’r amser” i gynnal pleidlais arall.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU y byddai’n “annheg i ofyn i bobl yr Ardal wneud penderfyniad mor bwysig” heb wybod beth fydd gan Brexit i’w gynnig.

Ac meddai Ysgrifennydd yr Alban yn y DU, David Mundell, wrth y BBC: “Fyddwn ni ddim yn dechrau unrhyw drafodaethau nes bod y broses Brexit wedi’i chwblhau.”

“Hawl i ddewis”

Yn ystod y ddadl dymhestlog yn Holyrood heddiw dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon y dylai pleidleiswyr gael yr hawl i ddewis rhwng y newid “dwys ac o bwys”  a ddaw yn sgil Brexit ac annibyniaeth.

Roedd Llywodraeth yr Alban yn gofyn am ganiatâd Aelodau Seneddol yr Alban i basio’r cynnig sy’n gofyn am fandad i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn cynnal ail refferendwm rhwng yr hydref y flwyddyn nesaf a’r gwanwyn 2019.

Bu’n rhaid gohirio’r ddadl wythnos ddiwethaf yn sgil y newyddion am ymosodiad Llundain.

Dywedodd Nicola Sturgeon bod yr Alban, “fel gweddill y DU, ar groesffordd.”

“Fe ddylai pobl yr Alban gael yr hawl i ddewis rhwng Brexit – o bosib Brexit caled iawn – neu ddod yn wlad annibynnol.”

“Rhuthro amserlen”

Yn ystod y ddadl roedd Arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson, wedi cyhuddo Nicola Sturgeon o “ruthro’r amserlen” i gynnal refferendwm heb “gydsyniad” y cyhoedd.

Mae hi wedi cyhuddo Nicola Sturgeon o bwyso am annibyniaeth “waeth pa mor dda fydd y cytundeb Brexit.”

A dywedodd arweinydd Llafur yr Alban, Kezia Dugdale, bod pobol yr Alban eisoes wedi lleisio eu barn mewn un refferendwm ac nad oedd cynnal ail refferendwm yn adlewyrchu “ewyllys y bobol”.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhuddo’r SNP o geisio dychwelyd at “raniadau’r gorffennol.”

Roedd ASau’r tair plaid wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig.

Plaid Cymru yn “croesawu”

Mae Plaid Cymru wedi croesawu penderfyniad Holyrood “i roi llais i bobl yr Alban ynglŷn â’u dyfodol.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Gyda bygythiad Brexit caled ar y gorwel, mae’n fater o ddemocratiaeth y dylai penderfyniadau sy’n effeithio’r Alban gael eu gwneud yn yr Alban. Mae Plaid Cymru yn credu y dylai pobl Cymru gael yr un hawl i lywio llwybr tecach a mwy llewyrchus i’r genedl.”