Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae Theresa May wedi cynnal trafodaethau gyda Phrif Weinidog yr Alban heddiw wrth iddi baratoi i danio Erthygl 50 a fydd yn dechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bu’r Prif Weinidog a Nicola Sturgeon yn cwrdd mewn gwesty yn Glasgow am tuag awr – y tro cyntaf i’r ddwy gwrdd ers i Brif Weinidog yr Alban gyhoeddi ei bwriad i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth.

Daeth ymweliad Theresa May ddiwrnod yn unig cyn i Senedd yr Alban bleidleisio ynglŷn â chynnal ail refferendwm.

Mae’n dilyn cyfres o drafodaethau rhwng gweinidogion y Deyrnas Unedig a’r rhai o’r gwledydd datganoledig ynglyn a’r modd y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed gweinidogion yr Alban nad oes unrhyw fanylion ynglyn a sut y bydd buddiannau’r Alban yn cael eu cynrychioli pan fydd y broses Brexit yn dechrau, a pha rôl fydd Llywodraeth yr Alban yn ei gael yn ystod y trafodaethau.

Cyn y cyfarfod, dywedodd Theresa May na fyddai hi’n newid ei safiad ynglyn a galwadau Nicola Sturgeon i alw am ail refferendwm ar annibyniaeth cyn y gwanwyn 2019.

Nid oedd am ddweud a fyddai hi’n caniatáu pleidlais rywbryd eto yn y dyfodol, gan ategu unwaith eto “nad dyma’r amser” ar gyfer pleidlais arall.

“Annheg”

Mae Nicola Sturgeon yn awyddus i gynnal ail refferendwm rhwng yr hydref 2018 a’r gwanwyn 2019 pan fydd cytundeb Brexit yn dod yn fwy clir.

Dywedodd Theresa May y byddai cynnal pleidlais yn ystod y cyfnod yma yn “annheg” i bobl yr Alban ac nad oedd wedi “newid fy safiad.”

Ychwanegodd mai ei bwriad oedd cael y “cytundeb gorau ar gyfer y Deyrnas Unedig, mae hynny’n cynnwys y bobl a busnesau ar draws y DU, gan gynnwys pobl yr Alban.”

Dywedodd llefarydd ar ran gweinidog Brexit yr Alban Michael Russell: “Yn  amlwg mae llawer o faterion ry’n ni’n gobeithio cael atebion iddyn nhw gan y Prif Weinidog…. Ry’n ni’n credu mai pobl yr Alban ddylai benderfynu eu dyfodol eu hunain a dyna pam ein bod yn dychwelyd i’r Senedd ddydd Mawrth i geisio mandad i ddechrau trafodaethau am  refferendwm a fydd yn rhoi dyfodol yr Alban yn nwylo’r bobl.”