Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (Llun: Ben Birchall/PA Wire)
Newid arweinydd yw’r “peth diwethaf sydd ei angen ar Gymru” ar adeg mor ansicr, yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai roi’r gorau iddi cyn etholiadau nesa’r Cynulliad yn 2021.

Ond dydy e “heb feddwl” pryd y bydd yn rhoi’r gorau iddi, meddai wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.

Dywedodd fod “tipyn o waith i’w wneud” yn sgil penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Brexit

Ychwanegodd: “Dw i newydd droi’n 50 oed.

“Dw i’n dal i fod dipyn yn iau na Theresa May, ac yn iau na David Cameron.

“Mae tipyn o waith i’w wneud, yn enwedig o ran Brexit.

“Dw i’n dal yr un mor frwd ag erioed, a dw i heb feddwl pryd y bydda i’n camu o’r neilltu.”

Daeth Carwyn Jones yn Brif Weinidog yn 2009, ac fe ddywedodd ei fod e’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar “sicrhau’r ddêl orau i Brexit”.

“Y peth diwethaf ddylai ddigwydd, dw i’n meddwl, yw cael newid sydyn yn y llywodraeth yng Nghymru neu yn unrhyw le arall o ran hynny.”

Galwodd am “Brexit synhwyrol” ac nid “Brexit meddal”.

Pleidlais

Fe fydd pleidlais heddiw yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno i roi sêl bendith i Carwyn Jones fel arweinydd.

Roedd y bleidlais i fod i gael ei chynnal brynhawn ddoe, ond cafodd ei gohirio yn dilyn problemau technegol.

Ymhlith y siaradwyr yn y gynhadledd heddiw mae llefarydd materion Cymreig y blaid yn San Steffan, Christina Rees.