Jeremy Miles (llun o Youtube ni)
Bydd cyfres o newidiadau yn cael eu cynnig yng nghynhadledd Llafur Cymru prynhawn ‘ma a fyddai’n rhoi mwy o annibyniaeth i’r blaid yng Nghymru.

Mae’r cynigion yn cynnwys cydnabod arweinydd a dirprwy arweinydd y blaid yng Nghymru yn ffurfiol.

Ar hyn o bryd, mae Carwyn Jones, sef arweinydd Llafur Cymru i bob pwrpas, yn cael ei adnabod yn ffurfiol fel arweinydd Llafur yn y Cynulliad.

Dan y newidiadau, byddai’n rhaid i bob arweinydd Llafur Cymru yn y dyfodol fod yn Aelod Cynulliad.

Mae disgwyl i’r newidiadau gael eu trafod yn nes ymlaen prynhawn ‘ma yng nghynhadledd wanwyn Llafur Cymru yn Llandudno.

Newid “positif iawn”

“Y penwythnos ‘ma yn y gynhadledd, byddwn ni’n newid rheolau’r Blaid Lafur yng Nghymru i gydnabod newidiadau sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diweddar,” meddai Jeremy Miles AC, wrth siarad â golwg360 cyn y gynhadledd.

“Mae hynny’n beth bositif iawn. Yn y dyfodol, hoffwn ni weld aelodau a chynrychiolwyr pleidiau lleol yn y Blaid Lafur yn cael trafodaeth a dadl ynglŷn ag amcanion a nod y blaid fel plaid yng Nghymru.

“Buaswn i hefyd yn hoffi gweld cyfle i ni fel plaid yng Nghymru ddatblygu polisi, nid yn unig ar faterion sy’n ddatganoledig fel y’n i eisoes yn gwneud, ond hefyd ar bethau sydd ddim wedi cael eu datganoli, oherwydd mae persbectif Cymreig gennym ni ar bethau heblaw eu bod nhw wedi cael eu datganoli.”

Mae disgwyl i arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn ogystal ag arweinydd y blaid yng Nghymru, Carwyn Jones, siarad heddiw.