Y Prif Weinidog yn y Senedd drannoeth yr ymosodiad (llun: PA Wire)
Huw Prys Jones yn trafod ymateb y Llywodraeth i’r ymosodiad yn Llundain yr wythnos yma

“Ymgais i ddistewi democratiaeth” oedd yr ymosodiad gan Khalid Masood yn Llundain ddydd Mawrth yn ôl y Prif Weinidog Theresa May.

Y cwbl mae datganiadau ymhongar hollol wirion fel hyn yn ei wneud ydi bychanu’r dioddefaint a achoswyd gan y trychineb.

Y bobl ddiniwed a gafodd eu llofruddio mewn modd mor erchyll ddylai fod yn cael yr holl sylw ar adeg fel hyn.

A chamwedd o’r mwyaf yn eu herbyn nhw a’r rhai a gafodd eu hanafu ydi ceisio darlunio’r digwyddiad fel rhyw fath o ymosodiad ar y wladwriaeth.

Mae’r syniad o wallgofddyn efo cyllell yn gallu bygwth holl drefn wleidyddol gwlad bwerus a llewyrchus yn gwbl, gwbl chwerthinllyd.

Yr amheuaeth gyntaf a gaiff rhywun ydi bod hyn yn ymgais sinicaidd gan y Llywodraeth i fanteisio ar gyfle i annog undod ymhlith deiliaid Britannia wrth danio Erthygl 50 yn erbyn lluoedd y fall ar dir mawr Ewrop.

Ond tybed nad oedd hefyd ymgais i dynnu sylw oddi wrth y ffaith bod yna ddiffygion amlwg yn nhrefn diogelwch y Senedd?

Do, mi lwyddwyd i rwystro’r gwallgofddyn rhag mynd i mewn i’r adeilad. Ond mae’n sgandal o’r mwyaf bod plismon wedi gorfod colli ei fywyd er mwyn ei atal. Hyd yn oed os oedd rheswm digonol pam nad oedd y plismon hwnnw’n arfog, mae’n gwbl anghredadwy nad oedd ganddo wasgod diogelwch i’w amddiffyn rhag digwyddiadau fel hyn.

All rhywun chwaith ond cymharu’r ymateb i’r ymosodiad ar yr Aelod Seneddol Jo Cox yr haf diwethaf. Prin oedd y sylw a roddwyd i arwyddocâd gwleidyddol ei  llofruddiaeth hi, er y gellid dadlau bod llofruddio Aelod Seneddol yn ei etholaeth yn ddigwyddiad mwy brawychus nag ymosodiad ar darged amlwg fel Tŷ’r Cyffredin.

Mae ei llofrudd hi’n cael ei ddarlunio fel rhyw gymeriad truenus nad oedd yn llawn llathen, er ei fod yntau hefyd yn amlwg wedi cael ei wenwyno ag ideoleg yr un mor ffiaidd ag athrawiaeth y Wladwriaeth Islamaidd.

A beth tybed fyddai ymateb Theresa May wedi bod petai rhyw fwystfil wedi  llofruddio criw o weithwyr o ddwyrain Ewrop, dyweder?

Go brin y byddai hi’n llawn datganiadau rhwysgfawr am fygythiad i’n democratiaeth ac i’n ffordd ni o fyw. Mi fyddai ganddi hi ormod o ofn pechu darllenwyr y Sun a chefnogwyr swnllyd eraill Brexit wrth wneud hynny.

Yr hyn a welsom ni’r wythnos yma oedd rhagrith y Sefydliad Seisnig ar ei waethaf, rhagrith yr ydan ni’n sicr o weld llawer mwy ohono dros y blynyddoedd nesaf.