Roedd disgwyl i filoedd o bobol fod yng nghynhebrwng Martin McGuinness heddiw, wrth i gyn-arweinydd yr IRA a Dirprwy Brif Weinidog y Stormont gael ei gladdu yn ei dre’ enedigol, Derry.

Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, a’r gwleidyddion Peter Robinson ac Arlene Foster yno yn rhan o’r gwasanaeth a ddechreuodd am 2yp.

Hefyd yno y mae’r Arlywydd Michael D Higgins a’i ragflaenydd, Mary McAleese, ynghyd â’r Taoiseach Enda Kenny.

Mae ardal y Bogside wedi dod i stop, wrth i’r gwasanaeth gael ei gynnal yn eglwys Long Tower yn y ddinas ac i alarwyr ymgasglu y tu allan i’r adeilad.

Bu farw Martin McGuinness ddydd Mawrth o ganlyniad i gyflwr ar ei galon. Roedd o’n 66 oed, ac wedi ymddiswyddo o’i rôl yn Ddirprwy Brif Weinidog gan orfodi etholiad yng Ngogledd Iwerddon.