Llun: PA
Union fis wedi i Brif Weinidog Prydain danio Erthygl 50, bydd arweinwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd yn cwrdd i benderfynu ar safiad cytûn wrth fargeinio â Phrydain.

Cyhoeddodd Theresa May ddoe y byddai’n tanio Erthygl 50 ar Fawrth 29, a daeth cadarnhad heddiw gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, y byddai’r arweinwyr eraill yn cyfarfod ar Ebrill 29.

Mae Donald Tusk wedi addo cyflwyno ymateb cychwynnol o fewn 48 awr o danio Erthygl 50, ond bydd y cyfarfod hwn yn gyfle i’r gwledydd gytuno a chyflwyno mandad i brif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd – Michel Barnier, gwleidydd o Ffrainc.

Amserlen

Roedd y cyfarfod gwreiddiol wedi’i drefnu ar gyfer Ebrill 6, ond fe gafodd ei wthio’n ôl wedi i Theresa May oedi cyn cyhoeddi y byddai’n tanio Erthygl 50 wedi i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ddweud ddiwrnod ynghynt y byddai’n galw am ail refferendwm ar annibyniaeth.

Mae’r amserlen newydd yn golygu na fydd modd i unrhyw drafodion ddechrau’n iawn tan fis Mai sy’n gadael 17 mis i Brif Weinidog Prydain sicrhau cytundeb terfynol.

Mae Michel Barnier wedi galw am gwblhau’r trafodaethau erbyn Hydref 2018 gyda disgwyl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019 o dan broses dwy flynedd Erthygl 50.