Felix Aubel
Mae’r gweinidog annibynnol, Felix Aubel, wedi ymddiheuro am ei sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu y dylid dod ag erledigaeth grefyddol yn ôl.
Mewn neges ar wefan Facebook neithiwr, dywedodd y Parchedig sy’n weinidog ar bump o eglwysi’r Undeb Annibynwyr Cymraeg ei fod yn “ymddiheuro o waelod calon” ac yn “edifarhau’n llwyr am gynnwys y trydariad.”
“Teimlaf gywilydd mawr oherwydd y boen a’r siom a achoswyd i’r capeli, swyddogion, yr aelodau, y bobl ifanc yn ogystal â’r gymuned ehangach ac eraill a gafodd eu brifo gan y cwestiwn ofynnais,” meddai yn ei neges.
Y sylwad
Mae ei sylwadau gwreiddiol bellach wedi dileu, ond roedd e’n ymateb i neges Twitter blogiwr asgell dde eithafol o Sweden pan ddywedodd y dylai Cristnogion Ewrop wneud yr hyn wnaed gan Gristnogion Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol.
Dyma beth oedd yn cael ei alw’n Chwil-lys Sbaen (Spanish Inquisition), oedd yn cynnwys erlid ac arteithio Mwslemiaid ac Iddewon a’u llosgi’n fyw ar y strydoedd.
‘Hollol annerbyniol’
Yn y cyfamser, fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg feirniadu ei sylwadau.
Mewn datganiad, dywedodd arweinwyr Undeb yr Annibynwyr fod y fath sylwadau’n “wrthun gennym”.
“Rydym yn parchu hawl gweinidog – fel pawb arall – i fynegi barn, ond mae’r sylwad a wnaed gan Dr Felix Aubel yn hollol annerbyniol.