Martin McGuinness, dirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon, yn ysgwyd llaw a'r Frenhines yn 2012 Llun: Paul Faith/PA Wire
Wrth i’r teyrngedau lifo i’r gwleidydd Sinn Fein fu farw’n 66 oed, mae rhai wedi tynnu sylw at ei yrfa ryfeddol wrth iddo adael yr IRA gan ddod yn Ddirprwy Brif Weinidog yn Stormont.

Ar un adeg, câi Martin McGuinnes ei ddisgrifio fel un o “brif derfysgwyr Prydain,” ond fe drodd ei gefn ar hynny gan ddod yn un o arweinwyr heddwch Gogledd Iwerddon.

Roedd bob amser yn cydnabod ei gefndir gyda’r IRA, ac yn 1972 pan oedd yn 21 oed roedd yn ail wrth y llyw gyda’r IRA dros dro adeg Bloody Sunday yn Y Deri pan gafodd 14 o bobol eu lladd.

Gwleidyddiaeth

Y flwyddyn ganlynol, cafwyd Martin McGuinnes yn euog gan Lys Troseddau Arbenigol Gweriniaeth Iwerddon ar ôl cael ei arestio ger car oedd yn cynnwys ffrwydron.

Ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar a chael euogfarn arall am ei aelodaeth â’r IRA fe daflodd ei hun yn llwyr at y blaid Sinn Fein gan ddod yn un o ffigurau mwya’ blaenllaw’r blaid honno ar ôl Gerry Adams.

Ei ddadl fawr oedd nad oedd modd sicrhau newid drwy ymladd, ac mai gwleidyddiaeth oedd yr unig ffordd i gyflawni hynny.

Ysgwyd llaw

Yn 1982, cafodd ei ethol i Gynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont gan gynrychioli’i dref enedigol, Y Deri.

Fe ddaeth yn brif drafodwr ar ran Sinn Fein yn y trafodaethau a arweiniodd at Gytundeb Gwener y Groglith gan ddod â’r terfysg i ben a sicrhau bod arfau’r IRA yn cael eu datgomisiynu yn 2005, ac fe rannodd Senedd â chyn-elynion.

Daeth 2012 â darn newydd o hanes iddo wedi iddo ysgwyd llaw â’r Frenhines a chyhoeddi yn San Steffan ei fod yn “gwirioneddol ddifaru” pob bywyd a gollwyd yn ystod y Trafferthion.

Dywedodd, “roedd pob gweithred droseddol yn dystiolaeth o fethiant mewn gwleidyddiaeth a methiant polisi Prydeinig yn Iwerddon.”