(Llun: Terry Roberts CCA 2.0)
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar leihau neu ddiddymu ffioedd comisiwn ar werthu cartrefi mewn parciau.

Ymhlith yr opsiynau fydd yn cael eu hystyried bydd gostwng, diddymu neu barhau â’r gyfradd comisiwn presennol ar werthu cartrefi mewn parciau.

Daw’r ymgynghoriad yn sgil adolygiad a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru lle cafodd sawl argymhelliad ei gynnig.

Er hyn, dim ond chwarter o berchenogion cartrefi symudol mewn parciau gyfrannodd gwybodaeth ariannol fanwl at yr adolygiad, meddai Llywodraeth Cymru.

O dan y system bresennol, mae’n rhaid i berson sy’n prynu cartref symudol dalu hyd at 10% o gomisiwn i berchennog y safle, ac mae perchnogion cartrefi symudol wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i sgrapio’r rheolau.

“Sylwadau cryf”

“Rwyf wedi dod i’r casgliad y dylem archwilio ymhellach lefel y comisiwn y mae perchnogion safleoedd yn ei godi ond, o ystyried y sylwadau cryf iawn rwyf wedi’u cael ar y mater, rwyf o’r farn ar hyn o bryd y gallai fod yna sail i ostwng lefel y comisiwn neu hyd yn oed ei ddiddymu,” meddai’r Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, wrth gyhoeddi’r ymgynghoriad.

“Byddaf wrth reswm am roi ystyriaeth lawn i’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyn penderfynu’n derfynol ar y mater.

“Ymhlith yr opsiynau y byddaf yn eu hystyried fydd gostwng neu hyd yn oed ddiddymu gyfradd y comisiwn, yn ogystal wrth gwrs â chadw pethau fel maen nhw.”

Mae perchnogion cartrefi mewn parciau wedi eu gwahodd i roi tystiolaeth ac mi fydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei chyhoeddi “cyn gynted ag y medrir.”