Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Yn dilyn marwolaeth cyn-ddirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon ac un o gyn-arweinwyr yr IRA, Martin McGuinness, mae llu o wleidyddion a ffigyrau cyhoeddus yng Nghymru wedi ymateb i’r newyddion.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: “Chwaraeodd Martin ran hanfodol mewn dod â heddwch i Ogledd Iwerddon.

“Gweithiais yn agos ag ef am sawl blwyddyn ar Gynghorau Prydain ac Iwerddon, Cynghorau Cydweinidogol a thu hwnt. Pan siaradai, roedd pobl yn gwrando.

“Mae’r presenoldeb hwnnw’n esbonio llawer am sut llwyddodd i godi pontydd dros wahaniaethau gwleidyddol. Mae fy meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau heddiw.”

Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon a chyn Aelod Seneddol Castell-nedd, Peter Hain bod Martin McGuinness wedi bod yn “ffigwr allweddol yn ystod proses heddwch Gogledd Iwerddon” gan estyn ei gydymdeimlad i’w deulu.

“Cymeriad hawddgar”

“Roedd o’n gymeriad hawddgar iawn, roedd gynno fo gefndir o fod yn gefnogol i’r IRA ond doeddech chi ddim yn ymwybodol o hynny o’i ymarweddiad,” meddai cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones ar y Post Cyntaf.

“Roedd yn hynod o hoffus, hawdd iawn siarad efo fo. Un maes oedd gynno fo ddiddordeb mawr ynddo fo oedd y Gymraeg ar Aeleg a sefyllfa’r ddwy o ran y gyfraith ac yn y blaen.”

“Sioc aruthrol”

“Sioc aruthrol. Fe fydd hyn yn sioc i bob ochr. Sioc i weriniaethwyr, sioc i bawb arall, Gogledd a De, a fydd, wrth gwrs, rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â’r ochr dda ac ochr ddrwg ei yrfa ond fyddai gweriniaethwyr yn ystyried Martin fel milwr da, arweinydd y rhyfel fel petai, gwleidydd da. Oedd e’n sefyll mas fel gweriniaethwr hen ffasiwn, moesol iawn ac yn mynd i ryfel achos doedd dim dewis arall,” meddai, Liam Andrews, sy’n byw yn Belfast, wrth siarad ar y Post Cyntaf.

“Arwain drwy esiampl”

“Roedd Martin McGuinness yn allweddol wrth sicrhau a chynnal heddwch a democratiaeth yng Ngogledd Iwerddon. Fel dirprwy Brif Weinidog, bu’n arwain drwy esiampl pan ddaeth i gymodi. Estynnodd allan at arweinwyr cymunedau eraill,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.

“Mae Plaid Cymru yn estyn ein cydymdeimlad at ei deulu, ei ffrindiau a’i etholwyr gan obeithio y bydd ei etifeddiaeth yn cael ei adeiladu arno yn y blynyddoedd i ddod.”

“Gormod i’w goddef”

Er bod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies yn cydnabod bod Martin McGuinness wedi “chwarae rôl allweddol wrth ddod a diwedd i’r Trafferthion” dywedodd y bydd y ganmoliaeth ohono heddiw yn “ormod i’w goddef” i deuluoedd yng Ngogledd Iwerddon a’r Deyrnas Unedig.