Nicola Sturgeon Llun: PA
Fe fydd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon heddiw yn dadlau ei hachos dros gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yn sgil y bleidlais Brexit.

Fe fydd arweinydd yr SNP yn galw ar Aelodau Seneddol yr Alban i gefnogi ei chais i San Steffan i ganiatáu pleidlais arall.

Wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Nicola Sturgeon ei chynlluniau i gynnal refferendwm arall ar ddyfodol yr Alban rywbryd rhwng yr hydref 2018 a’r gwanwyn 2019.

Mae gwleidyddion Ceidwadol, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban eisoes wedi ei gwneud yn glir eu bod yn bwriadu atal pleidlais o’r fath.

Ond fe fydd y Blaid Werdd yn yr Alban, sydd a chwech AS, yn rhoi’r gefnogaeth i Nicola Sturgeon sydd ei hangen er mwyn pasio’r cynnig ddydd Mercher.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May hefyd wedi dweud “nad dyma’r amser” ar gyfer ail refferendwm ac mae eisoes wedi awgrymu y bydd Llywodraeth y DU yn gwrthod amserlen yr SNP.