Martin McGuinness (Llun: CCA 2.0)
Mae cyn-ddirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon ac un o gyn-arweinwyr yr IRA, Martin McGuinness, wedi marw yn 66 oed.

Roedd wedi bod yn dioddef o salwch ers peth amser ac wedi camu o’i swydd ym mis Ionawr mewn protest yn erbyn y modd yr oedd Plaid y Democratiaid Unoliaethol (DUP) wedi delio gyda phrosiect ynni. Fe arweiniodd hynny at etholiad brys yn ddiweddar.

Mewn datganiad dywedodd Sinn  Fein: “Gyda thristwch mawr rydym wedi clywed am farwolaeth ein ffrind a’n cydymaith Martin McGuinness a fu farw yn Y Deri yn ystod y nos. Fe fydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod.”

Daeth ei ymddeoliad yn sgil pryderon am ei iechyd ond nid oedd ei deulu na’i gydweithwyr wedi manylu am natur ei salwch.

“Gweithiodd yn ddiflino dros heddwch”

Mewn teyrnged i’w gyfaill oes, dywedodd llywydd Sinn Fein Gerry Adams: “Trwy gydol ei fywyd roedd Martin wedi dangos penderfyniad mawr, urddas a gostyngeiddrwydd ac nid oedd yn wahanol yn ystod ei salwch byr.

“Roedd yn weriniaethwr brwd a weithiodd yn ddiflino dros heddwch a chymod ac am ailuno ei wlad.

“Ond yn fwy na dim roedd yn caru ei deulu a phobl Y Deri ac roedd yn hynod o falch o’r ddau.

“Ar ran gweriniaethwyr ymhobman rydym yn estyn ein cydymdeimlad i Fiachra, Emmet, Fionnuala a Grainne, ei wyrion a theulu estynedig McGuinness.”

“Bwlch a fydd yn anodd ei lenwi”

Dywedodd y Prif Weinidog Theresa May bod Martin McGuinness “wedi chwarae rôl allweddol wrth arwain y mudiad Gweriniaethol oddi wrth drais” gan ychwanegu “trwy hynny fe wnaeth gyfraniad hanfodol a hanesyddol yn nhaith Gogledd Iwerddon o wrthdaro i heddwch.”

Yn ystod ei gyfnod yn ei swydd roedd Martin McGuinness wedi meithrin perthynas gydag arweinydd Plaid y Democratiaid Unoliaethol (DUP) ar y pryd, Ian Paisley ac roedd y ddau wedi cael y llysenw “y Chuckle Brothers”.

Cafodd ei ddisgrifio fel “gŵr arbennig” gan gyn-bennaeth cyfathrebu Llafur Alastair Campbell a ddywedodd ar Twitter: “Mor drist i glywed bod Martin McGuinness wedi marw. Fe fydd rhai na fydd yn gallu maddau iddo am ei orffennol ond hebddo ef fyddai dim heddwch. Roedd y gŵr roeddwn i’n ei adnabod yn arbennig.”

Bu Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins, yn arwain y teyrngedau o’r Weriniaeth, gan ddweud y bydd marwolaeth Martin McGuinness yn gadael bwlch a fydd yn anodd ei lenwi.

“Fe fydd y byd gwleidyddol a phobl ar draws yr ynys hon yn gweld eisiau’r arweinyddiaeth a roddodd, a ddaeth yn fwyaf amlwg yn ystod cyfnod anodd y broses heddwch, a’i ymrwymiad i werthoedd democratiaeth a ddangosodd yn natblygiad y sefydliadau yng Ngogledd Iwerddon.”

Ychwanegodd bod Martin McGuinness  wedi gwneud cyfraniad sylweddol i heddwch a chymod yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd arweinydd yr SDLP Colum Eastwood bod ei farwolaeth yn “foment allweddol yn hanes yr ynys” gan ddisgrifio taith y cyn-aelod o’r IRA i fod yn wleidydd amlwg fel un “rhyfeddol.”

Rhagor i ddilyn…