Carwyn Jones a Theresa May yn trafod Bargen Dinesig Abertawe (Llun: Ben Birchall/ PA Wire)
Mae Prif Weinidog Prydain a Phrif Weinidog Cymru wedi arwyddo cytundeb heddiw fydd yn denu buddsoddiad o £1.3 biliwn gan greu miloedd o swyddi yn ne orllewin Cymru.

Fe lofnododd Theresa May y cynllun wrth gyfarfod â Carwyn Jones yn Stadiwm Liberty Abertawe heddiw gan glirio’r ffordd ar gyfer datblygiadau Bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Mae’r fargen yn dwyn ynghyd cynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro ac fe fydd 11 o brosiectau ym meysydd ynni, gweithgynhyrchu clyfar, arloesi a gwyddorau bywyd yn elwa o’r buddsoddiad.

Mae’r cynllun sy’n werth £3.5 biliwn yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac awdurdodau lleol.

Cytundeb ‘trawsnewidiol’

“Rydw i eisiau i bob rhan o’r Deyrnas Unedig fedru gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ac i fusnesau Cymru elwa o fasnach fwyaf rhydd bosib fel rhan o genedl fasnachu fyd-eang,” meddai Theresa May.

Ac mae Carwyn Jones wedi croesawu’r cytundeb fel un “trawsnewidiol.”

“Mae hwn yn becyn fydd yn dod â swyddi a thwf economaidd i dde orllewin Cymru gyfan, gyda buddiannau amlwg i’r holl ardaloedd sy’n rhan ohono.”

Caiff y cytundeb ei gefnogi gan £125.4 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, £115.6 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU, £396 miliwn o arian sector cyhoeddus arall, a £637 miliwn o fuddsoddiad sector preifat.