RSS

Golwg360

MwyCau 

Tom Watson: “dyfodol Llafur mewn perygl”

Mawrth 20, 2017 11:17 Diweddarwyd am 11:34


Jeremy Corbyn Llun: PA
Fe allai dyfodol Llafur fod mewn perygl, rhybuddiodd dirprwy arweinydd y blaid Tom Watson yn sgil honiadau bod cefnogwyr adain chwith Jeremy Corbyn yn cynllwynio i gymryd rheolaeth o’r blaid mewn cytundeb cyfrinachol gyda phennaeth undeb Unite Len McCluskey.

Dywedodd Tom Watson ei fod yn amlwg bod y bygythiad yn un difrifol ar ôl i recordiad ddod i’r amlwg o sylfaenydd y grŵp ymgyrchu Momentum – a fu’n cynorthwyo Jeremy Corbyn i ddod yn arweinydd y blaid – yn trafod y posibilrwydd o gael cefnogaeth Unite.

Honnir bod Jon Lansman wedi dweud wrth gefnogwyr ei fod yn disgwyl i’r undeb – ynghyd ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) –  i ymuno a  Momentum petai Len McCluskey yn ennill ei frwydr i gael ei ail-ethol yn ysgrifennydd cyffredinol Unite.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Today ar BBC Radio 4, fe rybuddiodd Tom Watson y gallai hynny “ddinistrio” Llafur ac y byddai’n codi’r mater gyda Jeremy Corbyn.

Mae Momentum wedi mynnu nad oes unrhyw gynlluniau cyfredol i Unite ymuno gyda nhw ac nad oedd wedi derbyn unrhyw arian o goffrau’r undeb.

Mae canghellor yr wrthblaid John McDonnell yn honni bod sylwadau Tom Watson yn ymgais i ddylanwadu ar y gystadleuaeth am arweinyddiaeth Unite.

“Yr hyn mae’n ceisio ei wneud yw dylanwadu ar y bleidlais i ethol ysgrifennydd cyffredinol Unite ac mae wedi llusgo’r Blaid Lafur i mewn i hyn, yn hollol ddianghenraid.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.