Carwyn Jones, (Llun: Flickr/Cynulliad Cymru)
Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n werth £3.5 biliwn ac a fydd yn arwain at greu miloedd o swyddi yn ne-orllewin Cymru, yn cael ei arwyddo heddiw.

Bydd y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac awdurdodau lleol, yn arwain at greu 10,000 o swyddi newydd ar draws y rhanbarth dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae’r fargen yn dwyn ynghyd cynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro ac fe fydd 11 o brosiectau ym meysydd ynni, gweithgynhyrchu clyfar, arloesi a gwyddorau bywyd yn elwa o’r buddsoddiad.

Caiff y cytundeb ei gefnogi gan £125.4 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, £115.6 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU, £396 miliwn o arian sector cyhoeddus arall, a £637 miliwn o fuddsoddiad sector preifat.

Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, yn ymuno a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ac arweinyddion awdurdodau lleol wrth lofnodi’r fargen mewn seremoni yn Stadiwm Liberty, Abertawe, fore dydd Llun.

Bargen Drawsnewidiol

“Bydd y fargen drawsnewidiol sy’n cael ei chyhoeddi heddiw yn ysgogi economi’r rhanbarth mewn cyfeiriad newydd, gyda chefnogaeth swyddi o ansawdd uchel a seilwaith digidol,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

“Mae hyn yn dangos ymarferoldeb bargeinion dinesig ar gyfer gwahanol rannau o Gymru, ac rydyn ni am weld hyn yn digwydd yn y gogledd hefyd.”