Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Fe fydd Theresa May yn ymweld â Chymru heddiw wrth iddi ddod dan bwysau i gadw’r undeb gyda’i gilydd yn sgil y bleidlais Brexit.

Mae’r Prif Weinidog yn cynnal trafodaethau gyda’r gwledydd datganoledig cyn iddi danio Erthygl 50 a dechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd y mis.

Daw ei hymweliad wrth iddi wfftio galwadau am ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban cyn i gytundeb Brexit gael ei gwblhau.

Bydd yr Ysgrifennydd Brexit David Davis ac Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns yn ymuno a Theresa May wrth iddi gwrdd â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn ogystal ag arweinwyr busnes a sectorau eraill.

Mae ei hymweliad yn cyd-fynd ag arwyddo cytundeb Bargen Ddinesig Bae Abertawe gyda Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, sy’n werth £1.3 biliwn ac a fydd yn creu tua 10,000 o swyddi yn y rhanbarth.

Wrth siarad cyn ei hymweliad, dywedodd Theresa May ei bod wedi ei gwneud yn glir, ers ei diwrnod cyntaf yn ei swydd, ei bod “yn benderfynol o gryfhau a diogelu’r” Undeb.

“Rwyf hefyd wedi bod yn glir, wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, y byddaf yn ceisio sicrhau cytundeb sy’n gweithio i’r Deyrnas Unedig gyfan.

“Rwyf eisiau i bob rhan o’r DU i allu gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd o’n blaenau ac i fusnesau Cymru elwa o’r farchnad rydd fel rhan o genedl fasnach ryngwladol.”