(Llun: PA)
Byddai galw ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn mynd yn groes i ddymuniadau’r mwyafrif o Albanwyr, yn ôl arweinydd Ceidadwyr yr Alban, Ruth Davidson.

Ar raglen Andrew Marr ar y BBC, cyhuddodd hi Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon o fod yn “benderfynol” o ddinistrio’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd hi mai Brexit yw “esgus yr wythnos” dros alw am ail refferendwm yn dilyn canlyniad siomedig i’r SNP yn 2014.

Dywedodd Nicola Sturgeon yr wythnos hon ei bod hi’n bwriadu cynnal ail refferendwm annibyniaeth o fewn dwy flynedd yn dilyn penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd yn groes i ddymuniad y rhan fwyaf o Albanwyr.

‘Syfrdanol’

Serch hynny, mae Ruth Davidson wedi dweud ei bod hi’n “syfrdanol” nad oedd yr SNP wedi amlinellu eu cynlluniau am annibyniaeth yn ystod eu cynhadledd wanwyn yn Aberdeen dros y penwythnos.

“Nid yr Alban yw’r SNP ac maen nhw’n gweithredu’n groes i ddymuniadau’r rhan fwyaf o Albanwyr wrth gyflwyno’u cynnig ddydd Llun.

“Dw i wedi darllen gormod o benawdau sy’n dweud, ‘Mae’r Alban yn ymateb fel hyn a’r llall’. Nac ydy ddim.”

Dywedodd fod y rhan fwyaf o Albanwyr yn croesawu safbwynt Prif Weinidog Prydain, Theresa May, sy’n galw am oedi cyn galw’r refferendwm.

“Ry’n ni wedi gofyn cwestiynau sylfaenol am bethau fel arian, y banc canolog, a fydden ni’n ail-ymuno ag Ewrop fel aelod llawn, ac mae’n ymddangos nad yw Nicola Sturgeon yn gallu ymrwymo i’r rheiny.”