Stormont

Yn dilyn etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon ar Fawrth 2, mae’r blaid bellach yn ail o ran nifer y seddi, gyda’u 27 yn dynn ar sodlau 28 sedd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP).

Yn syth wedi’r etholiad, fe ddaeth galwad gan Sinn Féin am ymddiswyddiad arweinydd DUP, Arlene Foster, o fod yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Heb iddi gamu o’r neilltu, meddai Sinn Féin, does dim posib cynnal ymchwiliad diduedd i’r sgandal egni adnewyddadwy, medden nhw (y sgandal a arweiniodd at ymddiswyddiad Martin McGuinness, y Dirprwy Brif Weinidog, ac a arweiniodd at orfod cynnal yr etholiad yn y lle cynta’.)

Mae Llywodraeth Prydain, yn ei thro, wedi galw ar Sinn Féin ynghyd â’r DUP i sicrhau bod llywodraeth newydd yn cael ei ffurfio yn dilyn yr etholiad, ac mae Theresa May wedi cyhoeddi na fydd hi’n mynd yn agos i’r trafodaethau aml-bleidiol i drafod rhannu grym.

Bu’n rhaid i Arlene Foster ymddiheuro wythnos wedi’r etholiad, wedi iddi gymharu Sinn Féin ag ymlusgiad barus: “Os ydych chi’n bwydo crocodeil, mae e’n siwr o ddod yn ôl am fwy,” meddai, wrth drafod galwad Sinn Féin am Ddeddf Iaith i amddiffyn y Wyddeleg.

Bellach mae Sinn Féin yn cynnal trafodaethau â’r DUP ynglŷn â rhannu grym yn Stormont… ond does dim llawer o obaith y bydd y trafodaethau’n dwyn ffrwyth. Os felly, fe allai arwain at gynnal etholiad arall, neu gyfnod o dan reolaeth San Steffan.