Gerry Adams
Mae Llywydd Sinn Féin, Gerry Adams, wedi galw ar aelodau Cyngres yr Unol Daleithiau i gefnogi ymdrechion i gadw Gogledd Iwerddon yn yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit.

Wedi i 56% o’r boblogaeth bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ystod refferendwm flwyddyn ddiwethaf, mae Sinn Féin wedi galw bod Gogledd Iwerddon yn derbyn statws arbennig o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit.

Mae gwleidyddion o bob ochr wedi rhybuddio gall gadael yr Undeb Ewropeaidd gynyddu tensiynau rhwng cenedlaetholwyr Gwyddelig Catholig ac unoliaethwyr Protestannaidd.

Hyd yma mae’r posibiliad gall cenhedloedd o fewn y Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit, wedi ei wrthwynebu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac unoliaethwyr sydd â mwyafrif yng Ngogledd Iwerddon.

Rheolaeth Brydeinig

Mae hefyd wedi gofyn i lywodraeth Iwerddon i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Brydain i reoli Gogledd Iwerddon yn uniongyrchol o Lundain.

Yn dilyn etholiad Mawrth 2, mae mwyafrif y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) yn y cynulliad cenedlaethol wedi dod i ben ac os na fydd dêl yn cael ei lunio erbyn diwedd y mis mae’n bosib gall y wlad ddychwelyd i gael ei rheoli gan San Steffan am gyfnod.

Yn ôl Gerry Adams, mae penderfyniad o’r fath yn “gam difrifol, a dylai’r Llywodraeth Wyddelig teimlo’r cymhelliad i’w gwrthwynebu”.