Arthur Griffith (Llun: Wikipedia)
Gwyddel o dras Gymreig a gafodd ei fagu yn slymiau dinas Dulyn oedd sylfaenydd plaid Sinn Féin ac Arlywydd cynta’ Dàil Earann – ond roedd yn hanu o deulu bonedd yn Eryri.

Os nad anghofiodd Arthur Griffith erioed ei fod wedi’i eni i dlodi yn ardal Upper Dominick Street yn Iwerddon – a bod hynny wedi ffurfio ei wleidyddiaeth a’i weledigaeth ar gyfer ei wlad – roedd ei hen-daid a chyndeidiau hwnnw yn dirfeddianwyr ac yn noddwyr beirdd yn ardal Dyffryn Nantlle.

Fe anwyd Arthur Joseph Griffith yn drydydd plentyn o bump i’w rieni, Arthur a Mary Griffith, ar ddiwrnod ola’ Mawrth 1871, ond roedd ei daid ar ochr ei dad yn un o blant fferm Drws-y-Coed Uchaf yn y pentre’ o weithfeydd copr ym mhen ucha’r dyffryn.

Roedd ei hen-hen-daid, William Griffith (1719-1782) yn dad i naw o ferched ac un mab, ac yn ffrindiau gyda’r bardd Goronwy Owen. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am greu cysylltiad rhwng Dyffryn Nantlle a dinas Dulyn, trwy wahodd cymuned grefyddol y Morafiaid i encilio i lan Llyn y Dywarchen (mwy am hynny yn y man).

Fe aeth pump o ferched William Griffith draw i Ddulyn i weithio i’r urdd, gyda thair ohonyn nhw’n dychwelyd yn ddiweddarach i wneud yr un gwaith i’r Morafiaid yn ninas Bryste.

Cyn hynny, roedd tiroedd Drws-y-Coed a’r Ffridd yn Nantlle yn eiddo i’r teulu sy’n rhan o linach Griffith ap William Owen (g. 1697) ac ymhellach i’r bonheddwr William Owen.

Puteiniaid ac afiechyd

Plentyndod symol o ran iechyd a gafodd Arthur Griffith yn Upper Dominick Street, Dulyn, lle’r oedd budreddi ar y strydoedd, puteiniaid yn gweithio’r palmentydd, ac afiechydon yn rhemp.

Roedd yntau wedi’i eni’n eiddil a gwantan, gyda phoenau cefn a golwg sâl ofnadwy. Fe fu’n diodde’ o byliau o wendid ar hyd ei oes.

Ond efallai mai ei natur bryderus a effeithiodd fwya’ ar ei iechyd, gan fod nifer o’i gyd-oeswyr yn dweud iddo’i weithio a phoeni ei hun i’w farwolaeth annhymig ym mis Awst 1922, ac yntau’n ddim ond 50 oed.

Roedd newydd adael yr ysbyty ar ôl cyfnod o salwch, ac ar ei ffordd i’r swyddfa toc cyn 10 o’r gloch y bore ar Awst 12, pan blygodd i gau careiau ei esgidiau… a syrthio’n farw. Mae ei dystysgrif marwolaeth yn nodi gwaedlif ar yr ymennydd fel achos marwolaeth.

Y gyfres o straeon

“Teimladau cymysg” Sinn Féin heddiw tuag at Arthur Griffith

Sinn Féin: “Ni ein hunain”, nid “Ni yn unig” meddai Arthur Griffith

Hen-hen-daid Arthur Griffith yn rhoi lloches i’r Morafiaid