Mae tudalen Urdd Meirionnydd ar wefan gymdeithasol Twitter ymhlith y rhai sydd wedi eu hacio heddiw, fel rhan o’r hyn sy’n ymddangos fel ymgais i ledaenu propaganda ar ran llywodraeth Twrci.

Roedd y neges ar y dudalen sy’n hyrwyddo gwaith yr Urdd yn yr ardal yn cynnwys symbol y Natsïaid, y Swastika, ac yn sôn am y ffrae ddiplomyddol rhwng Twrci, yr Almaen a’r Iseldiroedd.

Mae’r neges hefyd yn cyfeirio at Ebrill 16, y dyddiad pan fydd refferendwm yn Nhwrci ar roi mwy o bwerau i’r Arlywydd Recep Tayyip Erdogan.

Dywedodd llefarydd ar ran Urdd Meirionnydd wrth golwg360 fod y negeseuon yn “ddim byd mwy na byg cyfrifiadurol”.

Eglurhad

Yn ôl adroddiadau, mae miloedd o gyfrifon Twitter wedi cael eu heffeithio, gan gynnwys Forbes, Amnest Rhyngwladol a’r BBC.

Yr hyn sydd gan y cyfrifon i gyd yn gyffredin, mae’n debyg, yw eu bod yn defnyddio’r gwasanaeth dadansoddi data trydydd parti, Twitter Counter, sydd â’i bencadlys yn Amsterdam.

Mae Twitter yn “ymwybodol o’r mater” ac yn cynnal ymchwiliad, yn ôl adroddiadau.

Dyma fel y mae’r hanes wedi’i adrodd gan drydarwyr eraill: