Philip Hammond, Canghellor y Trysorlys
Mae Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond, wedi cyhoeddi na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwrw ymlaen â’r cynllun i gynyddu Yswiriant Gwladol ar gyfer yr hunangyflogedig.

Mewn llythyr i aelodau seneddol Ceidwadol dywedodd y Canghellor na fyddai’n parhau â’r cynllun gafodd ei gyhoeddi yng nghyllideb y Gwanwyn yr wythnos ddiwethaf.

“Rwyf wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen â’r mesur i gynyddu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4,” meddai yn y llythyr.

Mae Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn dweud bod y tro bedol wedi gadael “twll ddu yn y gyllideb” ac mae wedi galw ar Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May i ymddiheuro i’r cyhoedd.

Yn ôl Theresa May mae’r tro pedol yn sicrhau “cysondeb” oherwydd gwnaeth y blaid addo yn eu maniffesto na fydden nhw’n codi Yswiriant Gwladol, treth ar werth neu dreth incwm am bum mlynedd.

Pan gafodd y cynllun ei chyhoeddi  gwnaeth Philip Hammond ddenu ymateb chwyrn gan aelodau ei blaid, gan gynnwys Gweinidog Gwladol Swyddfa Cymru, Guto Bebb, oedd yn galw ar y blaid i ymddiheuro.