Neil McEvoy
Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, sydd wedi’i wahardd o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, wedi dweud na fydd yn gallu dychwelyd i’r blaid cyn etholiadau’r cyngor ym mis Mai.

Cafodd Neil McEvoy ei wahardd o grŵp y blaid ac fel cynghorydd ar Gyngor Caerdydd yn dilyn dyfarniad gan dribiwnlys ei fod wedi “bwlio” swyddog cyngor yn dilyn sylw a wnaeth.

Mae Plaid Cymru yn cynnal ymchwiliad i’w ymddygiad.

Mae Neil McEvoy wedi dweud nad yw’n medru cytuno ar ffurf geiriau ymddiheuriad gydag arweinydd y blaid, Leanne Wood.

Cynhadledd i’r wasg

Yn ystod cynhadledd i’r wasg yn y Cynulliad heddiw, dywedodd Neil McEvoy bod ei berthynas â Phlaid Cymru yn un galonogol ac mai “manylyn” yn unig oedd y gwaharddiad.

“Mae aelodaeth y grŵp yn fwy o beth technegol mewn gwirionedd. Manylyn technegol yw’r holl beth a’r hyn  rydym ni eisiau gwneud yw mynd yn ein blaenau ac ennill yr etholiad,” meddai Neil McEvoy wrth Golwg360.

“Mae gennyf gefnogaeth 100% gan Blaid Ardal Caerdydd a ‘dych chi ddim yn cael cefnogaeth fel ‘na heb fod ar delerau da.”

Lansiodd addewidion ei ymgyrch ar gyfer etholiad y cyngor – ac ar frig rhestr o saith o’i brif addewidion mae “ailstrwythuro uwch reolaeth cyngor Caerdydd”.

Dywedodd trefnydd ymgyrch Plaid Caerdydd, Angharad Llwyd, eu bod yn cefnogi Neil McEvoy ac  mewn datganiad dywedodd Pwyllgor Ardal Plaid Cymru Caerdydd bod  gan Neil McEvoy eu “cefnogaeth lawn”.

Ymateb Plaid Cymru

Yn ôl Plaid Cymru mae’r broses o geisio datrysiad ym mynd yn ei blaen ond does dim dyddiadau wedi cael eu cytuno.

Nid oedd y blaid am wneud sylw am yr ymchwiliad i’w ymddygiad sydd yn cael ei gynnal gan ei fod yn “fater mewnol”, ac nid oedd gan y blaid sylw ynglŷn â’r gynhadledd i’r wasg a gynhaliodd Neil McEvoy.