Llun: PA
Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi rhybuddio y gallai gwledydd Prydain “dalu’r pris am ddegawdau” petai’r Llywodraeth yn gwneud y penderfyniadau anghywir ynglŷn â Brexit.

Ac mae Jeremy Corbyn wedi pwyso ar y Prif Weinidog i wrando ar “ddoethineb torfol” y Senedd wrth fwrw ymlaen â chynlluniau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd fod angen i wleidyddion gael y cyfle i arsylwi ar y cytundeb terfynol gyda phleidlais “synhwyrol” hefyd.

Tanio Erthygl 50

Mae Theresa May yn rhydd bellach i fwrw ymlaen i danio Erthygl 50 ar ol i Fesur Brexit gwblhau ei daith drwy’r Senedd neithiwr.

Mae disgwyl y bydd y Mesur yn cael cydsyniad Brenhinol yr wythnos hon, gyda’r Prif Weinidog wedi ymrwymo i danio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.

Cynllun Brexit

Dywedodd Theresa May heddiw y bydd hyn yn “gyfnod ddiffiniedig i’n gwlad gyfan wrth inni ddechrau ffurfio perthynas newydd ag Ewrop a rôl newydd i’n hunain yn y byd.

“Byddwn ni’n Brydain gref, hunanlywodraethol, fyd-eang gyda rheolaeth unwaith eto dros ein ffiniau a’n cyfreithiau.

“Byddwn yn defnyddio’r cyfnod hwn fel cyfle i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach,” meddai.

Mae ei chynllun ar gyfer Brexit yn golygu gadael y farchnad sengl a cheisio cytundeb fasnach gynhwysol yn lle, ac mae wedi cyfeirio at gamau i geisio cytundebau masnach â Chanada a Siapan.