Nicola Sturgeon Llun: PA
Senedd yr Alban ddylai benderfynu pa bryd y dylid cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yr Alban, nid Llywodraeth Prydain, meddai Nicola Sturgeon.

Daw ei sylwadau wedi iddi gyfarfod â’i chabinet yng Nghaeredin heddiw gan ymateb i sylwadau Prif Weinidog Prydain wnaeth ei chyhuddo o “chwarae gemau gwleidyddol” fyddai’n arwain at “ansicrwydd a rhaniadau.”

Ond mae Nicola Sturgeon wedi rhybuddio Theresa May a’i llywodraeth i beidio â rhwystro’r ymgais i’r Alban gynnal ail refferendwm cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cydsyniad Brenhinol

“Dylai refferendwm yr Alban gael ei adeiladu ar egwyddorion democratiaeth, mandad a chynsail, a dylent oll gael eu harsylwi wrth inni geisio rhoi i bobol yr Alban y dewis y mae’r sefyllfa wleidyddol bresennol yn ei fynnu,” meddai Nicola Sturgeon.

Er hyn, mae’n edrych yn debygol y bydd Theresa May yn ceisio gwrthod y refferendwm tan y bydd Prydain wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac mae’r broses honno yn symud yn ei blaen gyda disgwyl i’r Mesur fydd yn arwain at danio Erthygl 50 gael ei wneud yn ddeddf heddiw ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol.

Mae Theresa May wedi ymrwymo i danio Erthygl 50 yn ystod wythnos olaf mis Mawrth, fydd yn arwain at y broses o adael fydd yn cymryd dwy flynedd.