Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae adroddiadau ar led heddiw y gallai Theresa May wrthod yr alwad am ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Prif Weinidog Prydain wedi cyhuddo plaid yr SNP o “chwarae gemau gwleidyddol” wedi i Nicola Sturgeon gyhoeddi ddoe ei bod am geisio caniatâd i gynnal ail refferendwm rhwng hydref 2018 a gwanwyn 2019.

Yn ôl Theresa May, byddai hynny’n creu “mwy o ansicrwydd a rhaniadau,” ond mae’r SNP wedi ei rhybuddio i beidio â cheisio’i rwystro.

“Ni allaf weld sut y gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig a etholwyd yn ddemocrataidd ddweud wrth Lywodraeth yr Alban a etholwyd yn ddemocrataidd ar fandad i gynnal refferendwm … na allan nhw gynnal pleidlais,” meddai Dirprwy Arweinydd yr SNP, Angus Robertson.

Tanio Erthygl 50

Yn y cyfamser, mae Theresa May yn rhydd yn awr i fwrw ymlaen i danio Erthygl 50 wedi i welliannau Tŷ’r Arglwyddi gael eu trechu neithiwr.

Yn wreiddiol, cyflwynodd yr Arglwyddi welliannau i Fesur Brexit i sicrhau pleidlais i Aelodau Seneddol cyn y cytundeb terfynol, a hefyd gwarchod hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig.

Fe gafodd y rheiny eu trechu yn Nhŷ’r Cyffredin, ac ni wnaeth yr Arglwyddi alw eto amdanyn nhw neithiwr.

Diwedd mis Mawrth

Roedd adroddiadau fod Theresa May am danio Erthygl 50 heddiw neu rywbryd yr wythnos hon, ond mae’n edrych yn debyg nawr na fydd hynny’n digwydd tan wythnos olaf mis Mawrth.

Roedd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn aros am y cyhoeddiad yr wythnos hon gyda chyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer Ebrill 6 i ymateb iddo, ond mae’r dyddiad hwnnw wedi’i wthio’n ôl at ddiwedd Ebrill hefyd.