Nicola Sturgeon Llun: PA
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi dweud ei bod yn bwriadu cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth.

Dywedodd y gallai’r bleidliais gael ei chynnal rhwng yr hydref 2018 a’r gwanwyn 2019 ac y byddai’n ceisio cael caniatad Senedd yr Alban i gynnal ail refferendwm.

Wrth gyflwyno araith yng Nghaeredin heddiw dywedodd: “Yn fy marn i mae’n bwysig bod yr Alban yn cael y cyfle i ddewis ei dyfodol ei hun mewn cyfnod pan fydd yr opsiynau yn fwy clir nag ydyn nhw rŵan, ond cyn ei bod yn rhy hwyr i ni benderfynu ar ein llwybr ein hunain.”

Mae Nicola Sturgeon wedi cyhuddo Theresa May o anwybyddu anghenion yr Alban yn ei chynlluniau Brexit.

Mae Nicola Sturgeon yn awyddus i gadw’r Alban yn y farchnad sengl sy’n groes i gynlluniau’r Prif Weinidog am “Brexit caled.”

Ers i’r Deyrnas Unedig bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd mae Nicola Sturgeon wedi dweud yn gyson y byddai ail refferendwm ar annibyniaeth “yn debygol iawn.”

Roedd 62% o bobl yr Alban wedi pleidleisio o blaid aros yn yr UE tra bod gweddill y DU wedi pleidleisio dros adael.

Dywedodd mai’r hydref y flwyddyn nesaf fyddai’r cyfle cyntaf i gynnal refferendwm pan fyddai manylion cytundeb Brexit yn dod yn fwy clir.

“Ansefydlogrwydd”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymateb i’r cyhoeddiad drwy ddweud y byddai ail refferendwm yn achosi “rhwyg” ac “ansefydlogrwydd economaidd ar yr amser gwaethaf posib.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth y dylai Nicola Sturgeon ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da i’r Alban, a bod pobl y wlad wedi pleidleisio o blaid aros yn rhan o’r DU yn y refferendwm yn 2014.

‘Anhrefn’

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi awgrymu y byddai’n rhaid i Alban annibynnol wneud cais i ymuno a’r Undeb Ewropeaidd yn hytrach na bod yn aelod yn awtomatig.

Ac mae’r prif wrthbleidiau yn yr Alban wedi cyhuddo llywodraeth Holyrood o greu ansicrwydd ac achosi rhwyg. Mae Ceidwadwyr, Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban wedi dweud y byddan nhw’n gwrthwynebu cynlluniau Nicola Sturgeon.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron y byddai ei blaid yn gwrthwynebu ail refferendwm ar annibyniaeth ac fe rybuddiodd y gallai’r Alban ei chael ei hun y tu allan i’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

“Ry’n ni’n credu bod yr SNP wedi mynd yn ôl ar ei gair bod 2014 yn bleidlais ‘unwaith mewn cenhedlaeth.”

Mae ASE Ukip yn yr Alban David Coburn hefyd wedi dweud y byddai cynnal ail refferendwm cyn y gwanwyn 2019 yn “hollol hurt”.

“Fe fyddai’r DU mewn trafodaethau gyda’r UE yn ystod y cyfnod yma – mae’n ymddangos bod yr SNP eisiau achosi ansefydlogrwydd ac anhrefn,” meddai.

Ond mae’r Blaid Werdd yn yr Alban, sy’n cefnogi annibyniaeth, wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud y byddai’n rhoi’r dewis i Albanwyr “rhwng Prydain Brexit caled a rhoi ein dyfodol yn ein dwylo ein hunain.”