RSS

Golwg360

MwyCau 

Jeremy Corbyn yn gwrthwynebu ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban

Mawrth 13, 2017 09:54 Diweddarwyd am 10:49


Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae Jeremy Corbyn wedi dweud na ddylai San Steffan geisio rhwystro’r Alban rhag cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth ond dywedodd y gallai fod yn “drychinebus”.

Wrth i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, baratoi i gyflwyno “araith bwysig” heddiw, gyda dyfalu y gallai amlinellu ei chynlluniau ar gyfer ail refferendwm, mae’r arweinydd Llafur wedi mynnu nad yw o blaid cynnal pleidlais arall.

Roedd ‘na wrthwynebiad chwyrn ymhlith Aelodau Seneddol Llafur ar ôl i Jeremy Corbyn ddweud wrth y Press Asociation yn yr Alban nad oedd yn erbyn cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Wrth iddo geisio egluro’i hun ddydd Lun, dywedodd wrth raglen BBC Radio 4, Today, y byddai’n “anghywir” i Senedd San Steffan atal pleidlais arall os oedd Senedd yr Alban o blaid.

Ond ychwanegodd: “Gadewch i ni fod yn hollol glir, dw i ddim yn meddwl y dylid cynnal refferendwm arall, dw i’n credu y byddai annibyniaeth yn drychinebus yn economaidd i nifer o bobl yn yr Alban,” a hynny oherwydd “lefelau’r incwm sydd gan y llywodraeth yn yr Alban a phrisiau olew isel a’r ddibyniaeth ar incwm olew,” meddai.

Mae Nicola Sturgeon yn awyddus i gadw’r Alban yn y farchnad sengl sy’n groes i gynlluniau’r Prif Weinidog Theresa May am “Brexit caled.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.