Llun: PA
Mae’r mesur fydd yn caniatáu i’r Prif Weinidog danio Erthygl 50 a gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin heddiw.
Fe gafodd y Mesur ei drechu ddwywaith gan yr Arglwyddi yn ddiweddar dros faterion yn ymwneud ag hawliau dinasyddion Ewropeaidd sy’n byw ym Mhrydain, a’r galw am bleidlais i Aelodau Seneddol cyn y cytundeb terfynol.
Ond mae’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, wedi galw ar Aelodau Seneddol i “beidio â rhwystro’r mesur” gan alluogi Theresa May i fwrw ymlaen â’r cynlluniau.
Fe allai hyn arwain at Erthygl 50 yn cael ei danio mor gynnar â dydd Mawrth yr wythnos hon.
Sicrhau cytundeb
Mae disgwyl y bydd Theresa May yn cyflwyno’r trafodaethau a gafodd yn ystod y Cyngor Ewropeaidd yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth.
Mae adroddiadau bod o leiaf 10 Aelod Seneddol Ceidwadol yn ystyried pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ynglŷn â’r mesur gan rybuddio y byddai gadael heb sicrhau cytundeb yn “beryglus” i fasnach a chymdeithas.