Nigel Farage (Llun: PA)
Mae cyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage wedi dweud y byddai “fwy na thebyg” yn sefyll fel ymgeisydd pe bai achos honedig o dwyll yn arwain at is-etholiad yn Ne Thanet yn Swydd Gaint.

Hon oedd ei etholaeth yn etholiad cyffredinol 2015.

Mae ymchwiliad ar y gweill i benderfynu a gafodd y gyfraith ei thorri wrth i’r Ceidwadwyr fethu â datgan treuliau’n ymwneud â’r etholiad cyffredinol.

Yn ôl y Mail on Sunday, mae strategydd etholiadol Nigel Farage wedi trosglwyddo ffeil i’r heddlu gyda manylion am ddefnydd Douglas Carswell o gyfrifiaduron.

Honiadau

Mae Nigel Farage yn honni bod Douglas Carswell wedi rhoi’r manylion i’r Ceidwadwyr er mwyn eu helpu i’w drechu.

Ond mae Douglas Carswell yn gwadu’r honiadau.

Dywedodd Nigel Farage wrth raglen Sunday Politics y BBC: “Mae gennym ni dystiolaeth fod Mr Carswell wedi lawrlwytho gwybodaeth. Does gennym ni ddim tystiolaeth o’r hyn wnaeth e gyda hi.”

Y Ceidwadwyr enillodd sedd De Thanet yn yr etholiad cyffredinol.

Ond mae Nigel Farage yn dweud y byddai “fwy na thebyg” yn sefyll fel ymgeisydd mewn is-etholiad.