Ysgrifennydd Brexit San Steffan, David Davis (Llun: Steve Punter/CCA2.0)
Mae Ysgrifennydd Brexit San Steffan, David Davis wedi datgelu bod Llywodraeth Prydain yn cynllunio ar gyfer y posibilrwydd na fydd modd dod i gytundeb cyn i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y byddai’r cynlluniau’n sicrhau na fydd Prydain yn cwympo “oddi ar y dibyn” wrth i Erthygl 50 gael ei gweithredu.

Mae Pwyllgor Materion Tramor San Steffan eisoes wedi rhybuddio y byddai diffyg cytundeb yn “ddinistriol iawn” i wledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

‘Hyderus’

Dywedodd David Davis wrth raglen Andrew Marr y BBC ei fod e’n hyderus y bydd yn sicrhau “canlyniad da” yn ystod y trafodaethau.

“Un o’r rhesymau nad ydyn ni’n siarad am y cynlluniau wrth gefn yn ormodol yw nad ydyn ni eisiau i bobol feddwl mai dyna ry’n ni’n ceisio’i wneud.”

Serch hynny, mae’r Pwyllgor Materion Tramor wedi dweud nad ydyn nhw wedi gweld tystiolaeth o’r cynlluniau wrth gefn.

Maen nhw’n rhybuddio adrannau Whitehall y byddai diffyg cynllunio’n “esgeuluso’u dyletswydd”.

Yn ôl Prif Weinidog Prydain, Theresa May, byddai’n well ganddi gerdded i ffwrdd heb gytundeb na sicrhau “cytundeb gwael”.

Dywedodd David Davis: “Ry’n ni wedi bod yn llunio cynlluniau wrth gefn, yr holl ganlyniadau amrywiol, holl ganlyniadau posib y trafodaethau.”

Mae David Davis wedi galw ar aelodau seneddol i wrthod gwelliannau’r Arglwyddi i Fesur Brexit.

Mae’r Arglwyddi’n awyddus i weld y senedd gyfan yn cael pleidlais ar y mesur, a bydd eu hargymellion yn cael eu trafod ddydd Llun.

Mae disgwyl i hyd at 10 o Geidwadwyr wrthwynebu’r Llywodraeth, ac mae awgrym y gallai Erthygl 50 gael ei thanio mor fuan â dydd Mawrth pe bai’r Llywodraeth yn gwrthsefyll yr Arglwyddi.