Philip Hammond (Llun: PA)
Mae’r Canghellor Phillip Hammond wedi amddiffyn cynnydd Yswiriant Gwladol i bobol hunan gyflogedig yn sgil ymateb chwyrn i’r cyhoeddiad yng nghyllideb y Gwanwyn.

Mae’r cynnydd i’r Yswiriant Gwladol fydd yn arwain at gynnydd treth £240 y flwyddyn i 2.5 miliwn o weithwyr hunan cyflogedig, wedi’i feirniadu gan feinciau cefn ei blaid ei hun – ac mae’r blaid Lafur wedi ei gyhuddo o dorri addewid maniffesto’r Ceidwadwyr.

Dywedodd y Canghellor Cysgodol, John McDonnell bod y cynnydd treth yn “codi braw” ac mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Anne-Marie Trevelyan, wedi galw ar y blaid i ddiddymu’r penderfyniad.

Daw’r galwad wedi i gyfres o geidwadwyr leisio pryder byddai’r newid yn taro’r dyn cyffredin gyda’r Ceidwadwr mainc cefn Tom Tugendhat yn dweud dylai’r newid gael ei “ail ystyried.”

Yn ôl y Canghellor, mae’r gwahaniaeth oedd yn bodoli rhwng pobol hunan cyflogedig a phobol gyflogedig o ran buddion gan y wlad, bellach wedi dod i ben a phwrpas y cynnydd yw mynd i’r afael â’r anghydbwysedd yma.

Mae hefyd wedi gwadu bod y cynnydd o 9% i 11% i Yswiriant Gwladol Dosbarth 4, yn torri addewid maniffesto i beidio â chodi cyfraniadau Yswiriant Gwladol am gyfnod o bum mlynedd, gan nid oedd pobol hunan cyflogedig wedi eu cynnwys yn yr addewid.