Stormont Llun: PA
Fe fydd arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yn Stormont yn cwrdd ag Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon James Brokenshire yn ddiweddarach ar gyfer trafodaethau i adfer datganoli.

Yn dilyn yr etholiad brys, mae gan arweinwyr dair wythnos i ffurfio llywodraeth newydd a phenderfynu sut y byddan nhw’n rhannu grym, neu fe fyddan nhw’n wynebu cael eu rheoli gan San Steffan.

Mae’r ddwy brif blaid, Plaid y Democratiaid Unoliaethol (DUP) a Sinn Fein wedi gwrthdaro ynglŷn ag arweinyddiaeth Arlene Foster.

Mae Sinn  Fein yn mynnu na ddylai arweinydd y DUP gael ei hadfer yn brif weinidog tra bod ymchwiliad yn parhau i achosion o lygredd honedig a chamddefnyddio arian cyhoeddus, y sgandal a arweiniodd at yr etholiad brys wythnos ddiwethaf.

Ac mae’r DUP yn mynnu na all Sinn Fein benderfynu pwy sy’n cael eu henwebu i arwain y pwyllgor gwaith newydd yn Stormont.

Fe gollodd yr unoliaethwyr eu mwyafrif yn y siambr wedi’r etholiad.