Philip Hammond (Llun: PA)
Mae disgwyl i’r Canghellor Philip Hammond wario’n ofalus fel rhan o’i Gyllideb nesaf, fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.

Mae e wedi cyhuddo’r rheiny sy’n galw am ddefnyddio trethi i roi hwb ariannol i’r economi o fod yn “ddiofal”.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Nid arian yn y waled yw hwn gan ein bod ni’n benthyg symiau anferth o arian.

“Cofiwch fod gyda ni gwerth dros £1.7 triliwn o ddyled. Nid arian mewn pot yw hwn.

“Yr hyn y mae cryn ddyfalu yn ei gylch yw a ydyn ni wedi benthyg cymaint ag yr oedd y rhagolygon yn disgwyl i ni ei fenthyg.

“Os yw eich banc yn codi’r terfyn ar eich cerdyn credyd, dw i ddim yn meddwl eich bod yn teimlo gorfodaeth i fynd allan a gwario pob ceiniog ar unwaith.”

Ychwanegodd fod gwasanaethau gofal cymdeithasol “dan bwysau”, ac mae disgwyl iddo neilltuo £1 biliwn yn ei Gyllideb.

Trethi

Mae Philip Hammond yn gwrthod datgelu faint o dreth mae e’n ei thalu, a hynny ar ôl i ganghellor yr wrthblaid, John McDonnell alw arno i wneud hynny.

Dywedodd fod ei faterion ariannol “yn hollol iawn ac wedi’u diweddaru”.