Mae pwyllgor trawsbleidiol wedi galw ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May i sicrhau hawliau tair miliwn o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd San Steffan, dylai Llywodraeth Prydain ymateb ar unwaith yn hytrach nag aros gan sicrwydd gan Ewrop ynghylch dinasyddion gwledydd Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae gweinidogion San Steffan yn mynnu bod rhaid datrys y ddwy sefyllfa ar yr un pryd.

Mae’r pwyllgor, sy’n cynnwys cadeirydd Vote Leave Michael Gove, wedi dweud na ddylid aros hyd at ddwy flynedd i gael atebion.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Hilary Benn, mae “cwmwl o ansicrwydd” dros y sefyllfa o hyd.

“Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi dod i fyw a gweithio yma wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd economaidd a diwylliannol y DU. Maen nhw wedi gweithio’n galed, wedi talu eu trethi, wedi’u hintegreiddio, wedi magu teuluoedd ac wedi magu gwreiddiau.”

Mesur Brexit

Mae’r adroddiad yn rhoi pwysau ar Theresa May yn dilyn penderfyniad Tŷ’r Arglwyddi i gynnig gwelliant i Fesur Brexit yn galw am sicrwydd i drigolion yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gweinidogion eisoes wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i wyrdroi’r gwelliant – sy’n awdurdodi gweithredu Erthygl 50 – ond maen nhw’n wynebu pwysau i ildio rhwyfaint o dir.

Yn ôl y pwyllgor, mae trefn y broses yn hollbwysig.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i drigolion yr Undeb Ewropeaidd sydd am ddod yn ddinasyddion yng ngwledydd Prydain lenwi ffurflen 85 tudalen, ond mae’r pwyllgor yn dweud nad yw’n addas ar gyfer ei bwrpas.

Mae’r pwyllgor hefyd yn rhybuddio na fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd o reidrwydd yn lleihau nifer net y mewnfudwyr yng ngwledydd Prydain.