Martin McGuinness - ei ymddiswyddiad o fod yn Ddirpwy Brif Weinidog a achosodd yr angen i gynnal etholiad yng Ngogledd Iwerddon (Llun: CCA 2.0)
Mae’r etholiad a orfodwyd ar Stormont gan ymddiswyddiad y Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness, wedi newid yn sylweddol gyfansoddiad Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Sinn Fein sydd wedi gwneud orau, ar draul plaid y DUP.

Mae’r unoliaethwyr wedi colli eu mwyafrif yn y siambr, ac mae arweinydd Unoliaethwyr Ulster, Mike Nesbitt, wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad wedi noson drychinebus.

Mae arweinydd y DUP hefyd, a chyn-Brif Weinidog y Stormont, Arlene Foster, hefyd yn mynd i orfod ateb cwestiynau ynglyn â sut y bu i’w phlaid golli ei fwyafrif.

Fe aeth i mewn i’r etholiad gyda deg o seddi’n fwy na Sinn Fein… ond fe dorrwyd y mwyafrif hwnnw i un sedd yn unig, wrth i’r cenedlaetholwyr ddenu mwy o gefnogaeth.

Fe wnaeth cenedlaetholwyr yr SDLP hefyd gynnydd mwy na’r disgwyl, gan gymryd lle’r UUP fel trydydd blaid y Cynulliad.

Mae y pleidiau nawr dair wythnos i drafod ac i ddod i gytundeb ar sut y byddan nhw’n rhannu grym.

DUP – 28 sedd; Sinn Fein – 27; SDLP – 12; UUP – 10; Alliance Party – 8; Gwyrddion – 2; People Before Profit – 1; Traditional Unionist Voice – 1; Unoliaethwr annibynnol – 1.

Mae hynny’n golygu 40 o unoliaethwyr, 39 o genedlaetholwyr/gweriniaethwyr. Dydi’r 11 aelod arall ddim yn uniaethu gyda’r un traddodiad.