Theresa May (llun y Blaid Geidwado;l)
Fe fydd Theresa May yn rhybuddio’r SNP i beidio â ‘chwarae gêmau’, mewn araith yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn yr Alban yn Glasgow, heddiw.

Fe fydd Prif Weinidog Prydain hefyd yn dweud bod cadw’r Alban yn rhan o Brydain yn flaenoriaeth bersonol iddi.

Ond mae Prif Weinidog yr Alban wedi ateb trwy gyhuddo Llywodraeth Prydain o  ddefnyddio iaith ’diktat’.

‘Obsesiwn gydag annibyniaeth’ – May

Gyda galwadau yn cynyddu am ail refferendwm dros Annibyniaeth yn yr Alban yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Theresa May dan bwysau i ganolbwyntio ei hymdrechion ar warchod yr Undeb.

Fe fydd yn beirniadu Llywodraeth yr Alban am ei ‘obsesiwn’ gyda annibyniaeth a hynny ar draul materion fel addysg.

“Dw i eisiau gwneud yn gwbl glir mai fy mlaenoriaeth yw cryfhau a chynnal yr uniad rhyngon ni,” meddai mewn dyfyniadau o’r araith sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw.

‘Llywodraeth Prydain sy’n creui rhwyg’ – Sturgeon

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cyhoeddi papur gwyn yn archwilio’r posibliadau o gynnal ail refferendwm, yn sgil bwriad Llywodraeth Prydain i gael ‘Brexit caled’ a gadael y farchnad sengl.

Ac teb Nicola Sturgeon i sylwadau Theresa May oedd mai Llywodraeth Prydain sy’n creu rhwygiadau, gan wrthod yr hawl i Senedd yr Alban bleidleisio ar Brexit na gwrando ar farn y Llywodraeth yno.

“Tra’ yn ni wedi siarad iaith consensws a chydweithio, mean nhw wedi siarad iaith diktat,”meddai. “Tra ’yn ni wedi bod yn barod i gynnig cyfaddawd, mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi gwrthod cydweithio.”

  • Mewn stori arall, mae Nicola Sturgeon wedi gwadu bod yr SNP yn wrth-Saeson ar ôl i un o gynghorwyr y blaid sôn am yr Alban yn cael ei rhoeli gan ‘quislings’ dros y canrifoedd diwetha’.