Mae disgwyl i weinidogion San Steffan geisio gwrthdroi’r newid i’r Mesur Brexit gan Dŷ’r Arglwyddi, ar ôl iddyn nhw golli pleidlais ar y mater nos Fercher.

Fe wnaeth yr Ail Dŷ fynd yn erbyn Theresa May, gan bleidleisio o 350 i 256 o blaid gwelliant Arglwyddi’r Blaid Lafur, a fyddai’n sicrhau hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig.

Disgrifiodd Llywodraeth Prydain y canlyniad yn un “siomedig”, tra bod ffynonellau wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu ei wrthdroi pan fydd y Mesur yn dod yn ôl i Dŷ’r Cyffredin.

Er gwaetha’r cam yn ôl, mae gweinidogion yn y hyderus y byddan nhw’n gallu cyrraedd dedlein y Prif Weinidog ar danio Erthygl 50 – gan ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd – erbyn diwedd mis Mawrth.

“Mae pwrpas y Mesur yn syml – i weithredu ar ganlyniad y refferendwm a galluogi’r Llywodraeth i barhau â thrafodaethau,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Brexit yn Whitehall.

Mae rhai Aelodau Seneddol o blaid Brexit wedi mynegi eu dicter tuag at yr Ail Dŷ ar ôl i Dŷ’r Cyffredin basio’r Mesur heb unrhyw welliannau.

Mae’r Llywodraeth yn dadlau tra’i bod am sicrhau hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig, mae angen iddi sicrhau hawliau cyfatebol dinasyddion Prydeinig sy’n byw yn yr UE ar yr un pryd.

Y camau nesaf

Mae disgwyl nawr i’r Mesur fynd yn ôl at Dŷ’r Cyffredin ar Fawrth 13 ac 14. Os bydd Aelodau Seneddol yn gwrthod gwelliant yr Arglwyddi, bydd yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau Dŷ.

Os bydd hynny’n digwydd, mae Tŷ’r Arglwyddi wedi dweud na fyddan nhw’n mynd yn erbyn y Llywodraeth eto, gan roi’r gallu i Theresa May danio Erthygl 50 ar Fawrth 15.