Douglas Carswell (llun Wikipedia Steve Punter CCA 2.0)
Fe fydd UKIP yn disodli ei hunig Aelod Seneddol o’r blaid yn dilyn blynyddoedd o gecru mewnol, yn ôl Nigel Farage.

Mae cyn-arweinydd UKIP wedi galw ar y blaid i gael gwared â’r Aelod Seneddol Douglas Carswell gan ei gyhuddo o niweidio’r blaid.

Mae arweinydd y blaid, Paul Nuttall wedi gofyn i gadeirydd UKIP, Paul Oakden i gwrdd ag Aelod Seneddol Clacton ddydd Mawrth.

Mewn ymateb i’r galw mae un o brif noddwyr y blaid, Arron Banks wedi awgrymu ei fod am sefyll yn erbyn Douglas Carswell yn yr etholiad cyffredinol yn 2020.

Perthynas wedi suro

Trodd Douglas Carswell ei gefn ar y Ceidwadwyr gan ymuno ag UKIP yn 2014, ond ers hynny mae’r berthynas â Nigel Farage wedi suro.

Mae Nigel Farage wedi cyhuddo’r Aelod Seneddol o’i rwystro rhag cael ei urddo, ac yn honni ei fod wedi ceisio ei waredu o’r blaid pan oedd yn Arweinydd.

Mewn erthygl yn The Telegraph a gafodd ei chyhoeddi heddiw, dywedodd Nigel Farage: “fel plaid, sut allwn ni ganiatáu i ddyn sydd yn amlwg yn ceisio niweidio ein plaid, ein cynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin? Credaf nad oes dyfodol i UKIP â Douglas Carswell yn y blaid. Nawr yw’r amser iddo adael.”

Mae Douglas Carswell wedi dweud y dylai Nigel Farage ddod i siarad gyda Phlaid Seneddol Ukip gydag unrhyw bryderon ac y byddai’n “hapus i ymateb.”