Maer Llundain, Sadiq Khan (Llun: PA)
Mae arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Kezia Dugdale wedi amddiffyn Maer Llundain, Sadiq Khan ar ôl iddo awgrymu bod yr SNP yn hiliol.

Mewn erthygl yn y Daily Record, dywedodd Sadiq Khan nad oes gwahaniaeth rhwng hiliaeth a’r rheiny sy’n ceisio “ein rhannu ni ar sail ein cefndir, hil neu grefydd”.

Ond ychwanegodd yn ddiweddarach nad oedd yn “dweud bod cenedlaetholwyr rywsut yn hiliol neu’n rhagfarnllyd”.

Mae Kezia Dugdale wedi gwadu bod Sadiq Khan yn hiliol, gan ychwanegu ar raglen Sunday Politics y BBC na fyddai hi “fyth yn awgrymu bod yr SNP yn eu hanfod yn blaid hiliol”.

Mae arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi dweud bod sylwadau Sadiq Khan yn dangos bod Llafur yr Alban yn “ddespret”.

Ychwanegodd Kezia Dugdale: “Yr hyn roedd e [Sadiq Khan] yn ei ddweud oedd fod cenedlaetholdeb, yn ei hanfod, yn rhannu pobol, yn rhannu cymunedau.”