(llun: PA)
Blog: Wrth edrych ar drafferthion Llafur, Huw Prys Jones yn dadlau bod Jeremy Corbyn wedi bradychu cefnogwyr Llafur o leiaf gymaint ag y gwnaeth Tony Blair.

Mae rhywun yn derbyn nad ydi Jeremy Corbyn erioed wedi cael llawer o chwarae teg gan y cyfryngau, er nad o ydi’r unig un. Mae rhywun yn derbyn hefyd na fyddai cael gwared arno fel arweinydd yn mynd yn agos at ddatrys problemau’r Blaid Lafur dros nos.

Ar y llaw arall, mae ei ymddygiad dros yr wythnosau diwethaf wrth fynd allan o’i ffordd i helpu Theresa May wthio’i mesur Brexit drwy’r senedd yn gwbl, gwbl anfaddeuol.

Roedd ei ‘gefnogaeth’ lugoer dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ymgyrch y refferendwm yn ddigon drwg. Chwe mis yn ddiweddarach, wrth weld y berthynas sy’n datblygu rhwng cyfundrefnau Brexit a Trump ym Mhrydain ac America ddod i’r amlwg, mae parodrwydd Corbyn a’i griw i fod yn gŵn bach i’r sefydliad yn fwy gwrthun fyth.

Waeth iddyn nhw heb â gwneud areithiau huawdl yn erbyn croesawu Donald Trump ar ymweliad â Phrydain os ydyn nhw’n barod i bleidleisio dros bolisïau ei gynffonwyr yn y llywodraeth.

Cwbl ddiwerth

Mae’r chwith Brydeinig fel carfan wleidyddol wedi profi’i hun i fod yn gwbl ddiwerth dros y misoedd diwethaf.

Ond mae hadau eu methiant yn mynd yn ôl yn llawer pellach na hyn.

Roedd cywirdeb gwleidyddol eu hagweddau hunan-gyfiawn at fewnfudo wedi gwneud unrhyw drafodaeth gall ar y pwnc yn hynod o anodd am flynyddoedd lawer. Y nhw yn anad neb sydd wedi braenaru’r tir ar gyfer gwenwyn ac anoddefgarwch Farage a’i debyg.

Rydan ni fel Cymry yn gwybod yn well na neb am y McCarthyism gwleidyddol gywir yma wrth gofio am y cyhuddiadau ffuantus o hiliaeth yn erbyn unrhyw un oedd yn gwneud sylw ar y pwnc.

Yn yr un modd, mae’r un tueddiad wedi bod gan y carfannau asgell chwith hyn i or-ddefnyddio a chamddefnyddio’r term ffasgaeth hefyd. Mae hyn wedi gwanhau’n ddifrifol eu gallu i wneud safiad effeithiol pan mae’r byd gorllewinol yn wynebu symudiadau asgell dde gwirioneddol beryglus.

Ar ben hyn i gyd, ar bwnc gwleidyddol pwysicaf y dydd, mi welson ni arweinydd Llafur yn ochri efo llywodraeth sy’n dawnsio i diwn Donald Trump a’i debyg. Mae hyn yn frad sydd yn rhaid ei gymharu i frad Tony Blair yn cefnogi George W Bush i ymosod ar Irac. Ac yn wahanol i Corbyn, mae Tony Blair ar ochr iawn y ddadl ar Ewrop o leiaf – ac roedd yn gallu ennill etholiadau hefyd o ran hynny.

Lles gwleidyddol

O wybod beth ydi gwir gymhellion llawer o gefnogwyr Brexit, mi fyddwn i’n dadlau bod dyletswydd foesol dros wneud safiad yn eu herbyn, beth bynnag fyddai’r gost wleidyddol.

Ond hyd yn oed os ydi’r cysyniad o ddyletswydd foesol braidd yn ddieithr i’r mwyafrif o wleidyddion ei ddirnad, mae yna ddigonedd o resymau ychydig yn llai teilwng hefyd dros wrthwynebu Brexit.

Y ffaith ydi fod yna 48% o boblogaeth Cymru a phoblogaeth Prydain a bleidleisiodd dros aros ac sy’n dyheu am lais ac arweiniad. Ac os ydi Llafur yn eu hesgeuluso, mi allai fod yn dir ffrwythlon i blaid neu bleidiau eraill a fyddai’n dewis camu i’r adwy.

Os edrychwn ar ddemograffeg y bleidlais, roedd y rhai dros aros bobl tipyn iau ar y cyfan a fyddai’n golygu y byddan nhw’n fwyafrif maes o law. Mae ymchwil wedi dangos hefyd bod mwyafrif clir o’r rhai sy’n arfer pleidleisio mewn etholiadau wedi cefnogi aros.

Mae’r dadleuon yn erbyn Brexit o leiaf cyn gryfed, ac mae’n debyg yn gryfach, heddiw nad oedden nhw yn y refferendwm. Pa reswm felly sydd gan neb dros newid eu barn?

A pha reswm sydd dros blygu gliniau i wneud pethau’n hawdd i lywodraeth na chafodd ei hethol, ac na fyddai mewn grym oni bai am gelwyddau a thwyll arweinwyr Brexit?

A pheidied neb â sôn am ryw angen i ‘barchu’ canlyniad y refferendwm. Dwyn anfri ar ddemocratiaeth ydi dangos unrhyw barch o’r fath, gan mai’r neges glir sy’n deillio o hynny ydi bod celwyddau’n gweithio.

Lol hollol wirion p’run bynnag ydi dweud bod ‘y wlad’ neu ‘y bobl’ wedi ‘penderfynu’ gadael. Unigolion gwahanol eu barn sy’n bwrw pleidlais; all yr un ‘wlad’ na ‘phobl’ wneud penderfyniad o unrhyw fath.

Newid popeth

Yr hyn sy’n rhaid ei ddeall ydi bod buddugoliaethau Brexit a Trump wedi newid popeth. Allwn ni ddim chwarae’r gêm wleidyddol yn ôl y rheolau arferol yn y drefn newydd sydd ohoni.

Mae yna bobl wirioneddol ddieflig mewn safleoedd o rym yn America ac mae ganddyn nhw eu cefnogwyr ym Mhrydain a gweddill Ewrop hefyd. Mae aelodau Ukip yn agored eu cefnogaeth i Marine Le Pen yn Ffrainc yn ogystal ag i Donald Trump, a ddylai neb anghofio chwaith am y cysylltiadau amheus rhwng y Gweinidog Brexit Liam Fox a’r fasnach arfau.

Pobl sydd â dirmyg llwyr at unrhyw gydweithio rhyngwladol, ac â difaterwch at yr amgylchedd ac at dlodi ac anghyfiawnder ydi’r rhain, a phobl sy’n rhaid iddyn nhw gael eu trin fel gelynion.

Mae gwneud safiad yn erbyn y dihirod hyn yn fater o sefyll dros werthoedd a gwareiddiad. Waeth pa mor fychan fyddai ein siawns o’u trechu, siawns fod gynnon ni ddigon o hunan barch i fynnu dangos i weddill y byd ac i genedlaethau’r dyfodol nad ydan ni ddim yn llyncu eu celwyddau a’u twyll.

Ond ddylen ni ddim chwaith ddiystyru’n llwyr ein gallu i beri cryn ddigofaint i’r sefydliad a’r llywodraeth. O fynd ati o ddifrif i fanteisio ar bob cyfle i ennyn annheyrngarwch tuag ati, mi allwn ni ddal i wneud llawer i danseilio hygrededd Theresa May a’i llywodraeth ymysg y cyhoedd ac ymysg arweinwyr eraill Ewrop.